Blogger - Crynodeb ar dudalen hafan a dolen Darllen Mwy ??

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Blogger - Crynodeb ar dudalen hafan a dolen Darllen Mwy ??

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 03 Hyd 2008 3:43 pm

Pan yn defnyddio Blogger, oes rhyw ffordd hawdd o osod crynodeb o bob postiad yn unig ar y dudalen hafan, gyda dolen 'Darllen Mwy' at y postiad llawnr? Yn Wordpress, yr unig beth sydd angen gwneud ydy gwasgu bwtwm pan yn llunio postiad, a bydd y testun uwchben y llinell yn ymddangos ar y dudalen hafan yn unig gyda dolen bach 'darllen mwy' a bydd y postiad llawn ar gael pan yn gwasgu ar y ddolen.

Dwi wedi gweld hwn - sy'n lot mwy cymhleth na Wordpress ond yn gwneud yr un peth,ond y broblem yw nad oes y 'tagiau' ma nhw'n son amdanynt yn bodoli yn fy nhemplad i sef 'Rounders'.

Dwi'n defnyddio'r drefn 'layouts' newydd, ac mae'n dweud:

Add the following code to your style sheet...

(for layouts)

<b:if cond='data:blog.pageType == "item"'>
span.fullpost {display:inline;}
<b:else/>
span.fullpost {display:none;}
</b:if>

Your style sheet is usually near the top of your template, between the <style> and </style> tags. If you have your style sheet in a separate file, you'll still need to add these lines in your template, so the conditional tags will work. Just make sure you add in the <style> tags around them.


Wnes i lwyddo gael yr uchod i weithio trwy creu tagiau <style></style> fy hunan o amgylch y cod, a'i roi rhwng y tagiau <head></head>,ond dwi'n methu'n lan a chael yr ail ddarn i weithio sef:

Add the following code to your template, somewhere after the <$BlogItemBody$> or <data:post.body/> tag:

(for layouts)

<b:if cond='data:blog.pageType != "item"'><br />
<a expr:href='data:post.url'>Darllen Mwy!</a>
</b:if>


Y broblem yw nad oes un o'r tagiau <$BlogItemBody$> neu <data:post.body/> yn bodoli yn y templad?!? Dwi wedi trio gosod y cod uchod mewn amryw o leoliadau gwahanol yn y templad, ond methu a chael i weithio.

Felly ar hyn o bryd, mae paragraff 1af pob postiad yn ymddangos ar y dudalen hafan, fel ma' nhw fod, ond does dim dolen yn dweud 'Darllen Mwy!' :?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Blogger - Crynodeb ar dudalen hafan a dolen Darllen Mwy ??

Postiogan Hedd Gwynfor » Sad 04 Hyd 2008 11:16 pm

Wedi gweld sut mae gwneud hyn nawr yma:

http://betabloggerfordummies.blogspot.c ... aries.html
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin


Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron