Dwi wedi bod wrthi'n creu cyfieithiad/ agregwr XML ar gyfer Yahoo! Weather. Mae'r sgript (pHp - beth arall?!) ar gael i'w lawrlwytho fan hyn, er mae dal ychydig yn fler. Mae llawer sydd dal yn bosib i'w ddatblygu'n bellach. Beth bynnag, dyma ddelwedd ohono ar waith (mae fy sgiliau graffeg yn ofnadwy, felly esgusodwch y dyluniad gwael - gallwch greu 'golwg'/steil eich hunain).
Gallwch ddefnyddio'r dudalen fyw a gweld sut i'w throsi rhwng Cymraeg a Saesneg.
*Nid yw data gwasgedd wedi'i chynnwys oherwydd nid yw'r data XML o Yahoo'n gywir.