240v supply o batris?

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

240v supply o batris?

Postiogan Rhodri Nwdls » Llun 13 Hyd 2008 4:52 pm

Annwyl tech-fiends,

Dwi eisiau rhedeg projector fideo yn symudol. Fydd gen i ddim socket AC/DC 240v. Sut dwi'n cael supply 240v call i'r projector gan ddefnyddio batris heb chwythu ei lectrics? Kettle lead normal sgen y projector.

Pa fath o fatri roddith hyn i fi a sut nai plygio 3-pin plug arferol mewn iddyn nhw?

Diolch yn dalps

Rhods
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: 240v supply o batris?

Postiogan 7ennyn » Llun 13 Hyd 2008 6:30 pm

Byddi di angen batri 12v "deep cycle" (drud a trwm!) a dyfais o'r enw "power inverter" er mwyn codi'r foltedd. Mae 'na inverters ar gael hefo soced tri pin yn rhan ohonyn nhw yn barod. Dos i siop garafanio neu hwylio i holi.

Ella y bysa generadur petrol yn fwy addas?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Re: 240v supply o batris?

Postiogan ffwrchamotobeics » Llun 13 Hyd 2008 7:04 pm

Iawn Nwdls? 'Inverter' ti angen,sy'n newid 12volt (o rwbeth fel batri car) i 240v. Ond ma pob dim yn dibynnu ar faint o bwer (watts) ma'r projector yn ei gymyd. Ma nhw fel arfer yn cymyd tipyn o bwer, ond ma'n siwr y base fe'n ddigon i redeg ffilm fer. Naethon ni redeg p.a bach tua 50 watts am tua 4/5 awr, ac mae projectors yn siwr o fod yn tua 200 watt. Yr opsiwnau eraill yw charger solar (sy' ddim iws yn y twllwch!) neu generator petrol (sy'n swnllyd!). Mi fase raid i ti brynu batri car ag inverter, a'u trio allan.

p.s newydd weld yr ateb uchod!!
Rhithffurf defnyddiwr
ffwrchamotobeics
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 912
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2003 9:06 am
Lleoliad: llanbibo

Re: 240v supply o batris?

Postiogan rhyds » Maw 14 Hyd 2008 9:04 am

Y peth cynta sa ni'n neud ydi edych ar y talfunudd am label sy'n deud faint o watts mae o'n ddefyddio (fel meddai ffwrchamotobeics a 7ennyn). Fydd o ar yr un label a'r gwneuthuriad/model, o hyn fe alli 'di ffindio "inverter" sydd ddigon cryf. Y peth arall fyddi di agen wrth gwrs ydi batri 12v MAWR o garafan neu fan/gar mawr disl (injan ddwy litr neu fwy) mi fydd hwn reit drwm felly fydd o ddim yn "portable" iawn.
rhyds
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 10
Ymunwyd: Iau 05 Ion 2006 12:28 pm
Lleoliad: Y Canolbarth

Re: 240v supply o batris?

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 14 Hyd 2008 12:34 pm

Gwych. Diolch yn fawr iawn boblach. O'n i'n gwybod fasa na ateb i fi fama. :)

200W ydi o, felly fydd un or rhein yn iawn debyg?

300W Inverter : http://www.maplin.co.uk/Module.aspx?Mod ... &U=strat15

O ran y batri, lle di'r lle gora i mi gael un yn weddol resymol? Lleol? A pa mor fawr ydi MAWR? Mae na wahaniaweth hiwj mewn ampej.

Hefyd fydd na leads i gysylltu i'r batri gyda'r inverter? Os nad ydi hynny'n debygol, be dwi angen dwch?

Dydi pwysau ddim yn ormod o broblam, ella na o bwt y car fyddai'n gneud eniwe - neu ella cael trelar bach ar gefn y beic! :gwyrdd:

Os oes na rhywin isio gwneud ffilm (mud) neu sleidshow ddiddorol i fi yna gadwch fi wbod....
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: 240v supply o batris?

Postiogan Barbarella » Maw 14 Hyd 2008 2:24 pm

Nid batri ti eisiau - beic! ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Re: 240v supply o batris?

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 14 Hyd 2008 4:30 pm

WWW!

sinema + beics = *joy*

Unrhywun isio helpu fi adeiladu un? Neith Pictiwrs chipio mewn dwi'n meddwl. Calling all Rhyfeddods!

Ma ganddyn nhw noson Reggae / Ska o'r enw Ohm (gwych!) wedi ei bweru gan feics mlaen fyd.

Diolch Babs.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: 240v supply o batris?

Postiogan ffwrchamotobeics » Mer 15 Hyd 2008 12:54 pm

Yr un maplin i'w weld yn iawn, a ma na gebyls i fynd i'r batri. Siarad gyda rhyw garej fase'r peth gore wrth ddewis batri, megis ATS.
Ond cofia, mi fyddi angen 'charger' car hefyd i chargo'r batri-sy'n codi'r pris eto.

Ella batri 'deep cycle' marine/golf cart(!) fel hyn? - Sw'n i'n mynd am fatri o leia 70 amphours.

http://www.powadrive.co.uk/shop/details.php?prodId=43&category=7

Hwn yn handi i ffeindio pa fatri ti angen, a pa mor hir parith o (yn cynnwys calculator):

http://www.donrowe.com/inverters/inverter_faq.html
Rhithffurf defnyddiwr
ffwrchamotobeics
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 912
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2003 9:06 am
Lleoliad: llanbibo

Re: 240v supply o batris?

Postiogan rhyds » Mer 15 Hyd 2008 7:32 pm

ffwrchamotobeics a ddywedodd:Yr un maplin i'w weld yn iawn, a ma na gebyls i fynd i'r batri. Siarad gyda rhyw garej fase'r peth gore wrth ddewis batri, megis ATS.
Ond cofia, mi fyddi angen 'charger' car hefyd i chargo'r batri-sy'n codi'r pris eto.

Ella batri 'deep cycle' marine/golf cart(!) fel hyn? - Sw'n i'n mynd am fatri o leia 70 amphours.

http://www.powadrive.co.uk/shop/details.php?prodId=43&category=7

Hwn yn handi i ffeindio pa fatri ti angen, a pa mor hir parith o (yn cynnwys calculator):

http://www.donrowe.com/inverters/inverter_faq.html


Sa ni'n gofyn mewn siop "motor factors" fel partco neu hyd yn oed yn well un bach lleol. Rho wybod iddyn nhw be wyt ti yn mynd i ddefnyddio'r batri i neud a gofyn iddyn nhw pa un mae nhw'n feddwl sa orau. O ran syniad ti'n edrych am fatri sy'n 50/60 Amp/awr neu fwy. Mae'r maint yma o fatri yn medru rhedeg car maint canolig (e.g. vauxhall cavalier). Y dewis arall ydi mynd i siop garafannau a gofyn am fatri "leisure" fel sonwyd am yn nghynt, ond mae rheini yn fwystfilod...
rhyds
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 10
Ymunwyd: Iau 05 Ion 2006 12:28 pm
Lleoliad: Y Canolbarth

Re: 240v supply o batris?

Postiogan 7ennyn » Mer 15 Hyd 2008 10:58 pm

Gan gofio nad ydi batri car cyffredin wedi ei adeiladu i gael ei redeg i lawr yn fflat fwy nag ychydig o weithiau. Buan iawn wneith o ddirywio. Os mai one off ydi o (neu two off!) yna dos am fatri cyffredin, ond os wyt ti isio rhywbeth wneith bara, byddi di angen buddsoddi mewn un "deep cycle" - roddith flynyddoedd o wasanaeth ffyddlon i ti hefo ychydig o ofal tyner.

Wyt ti wedi ystyried sut wyt ti'n mynd i wefru dy fatri?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Nesaf

Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai