OpenOffice.org 3.0

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

OpenOffice.org 3.0

Postiogan Rhoslyn Prys » Llun 13 Hyd 2008 10:02 pm

Heddiw cafodd OpenOffice.org 3.0 ei lansio yn derfynol - mae'r gweinydd lawr a does dim modd mynd at y tudalennau swyddogol. Dyna arwydd o boblogrwydd!

Mae'r fersiwn newydd yn cynnig amryw o welliannau, gan gynnwys 'canolfan' croeso ar gyfer cychwyn ar dasgau a dewis rhaglenni addas, mae'n gweithio yn Apple OSX heb orfod defnyddio X11, cefnogaeth i ffeiliau *docx newydd Microsoft Office 2007 a Microsoft Office for Apple Mac 2008, mae hefyd i fod yn gynt yn llwytho.

Yn y cyfamser, tra fod cy.openoffice.org ar lawr, defnyddiwch y rhain:

Windows XP a Vista

Apple Mac OSX Intel

Fel arall ewch i gartref OpenOffice.org Cymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Rhoslyn Prys
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 111
Ymunwyd: Iau 26 Meh 2003 10:09 pm
Lleoliad: Bangor

Re: OpenOffice.org 3.0

Postiogan Ari Brenin Cymru » Maw 06 Ion 2009 12:09 am

Oes rhwyun yn gallu dweud wrthai os oes fersiwn Cymraeg o Open Office 3.0 a sut i gael ef. Dydy'r iaith gymraeg ddim lawr yn y rhestr ar fersiwn 3.0.

Hefyd fydd 3.0 dal yn ddwyieuthog fel yr un 2.0 yr ydwyf yn ei redag ar y funud?
Ari Brenin Cymru
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1037
Ymunwyd: Mer 20 Gor 2005 8:32 pm
Lleoliad: Porthmadog/Aberystwyth

Re: OpenOffice.org 3.0

Postiogan Jac Glan-y-gors » Maw 06 Ion 2009 8:49 pm

Ari Brenin Cymru a ddywedodd:Oes rhwyun yn gallu dweud wrthai os oes fersiwn Cymraeg o Open Office 3.0 a sut i gael ef. Dydy'r iaith gymraeg ddim lawr yn y rhestr ar fersiwn 3.0.

Hefyd fydd 3.0 dal yn ddwyieuthog fel yr un 2.0 yr ydwyf yn ei redag ar y funud?


Mae'r dolenni fan hyn http://cy.openoffice.org/ yn pwyntio at fersiwn 3 Cymraeg erbyn hyn. (Windows / Mac / Linux ar dop y dudalen)

Sori dim syniad am fersiwn ddwyieithog.
Rhithffurf defnyddiwr
Jac Glan-y-gors
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 241
Ymunwyd: Sul 20 Gor 2003 3:05 pm
Lleoliad: Dyffryn Aeron

Re: OpenOffice.org 3.0

Postiogan Ari Brenin Cymru » Llun 16 Maw 2009 3:35 pm

Helo eto, mae gennyf open office 3.0 saesnag ond eisiau spell check yn y gymraeg, oes rhywun yn gwybod sut i gael hyn heb orfod lawrlwytho'r rhaglen i gyd yn gymraeg, achos dwim isior rhaglen yn gymraeg gan fod hi'n amhosib dallt y termau!
Ari Brenin Cymru
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1037
Ymunwyd: Mer 20 Gor 2005 8:32 pm
Lleoliad: Porthmadog/Aberystwyth


Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron