Mandriva Linux 2009 Cymraeg

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Mandriva Linux 2009 Cymraeg

Postiogan Rhoslyn Prys » Gwe 17 Hyd 2008 7:21 pm

Newydd ei ryddhau mae fersiwn diweddaraf o'r unig gynhyrchydd dosbarthiadau Ewropeaidd - Mandriva Linux. Mae'r cwmni Ffrengig yn dilyn patrwm cyffredin o ryddhau bob chwe mis er mwyn cadw i fyny gyda'r datblygiadau diweddaraf. Mae'r fersiwn yma'n cynnwys KDE 4.1.2, sef y fdiweddaraf o'r bwrdd gwaith chwyldroadol (ar gyfer Linux!), fersiwn 2.24 o GNOME a datblygiadau newydd yn fframwaith Mandriva ei hun gan gynnwys gwedd newydd i'r rhaglen osod, offer argraffu newydd o Fedora a chysylltiad gwell gyda ffonau symudol.

Er mwyn cael y gorau o'r rhyngwyneb Cymraeg, defnyddiwch GNOME, yn anffodus does dim cyfieithiad Cymraeg o KDE yn KDE 4.1. Mae Mandriva'n parhau i fod y dosbarthiad gyda'r mwyaf o Gymraeg o'i fewn ac yn hawdd ar gyfer defnyddwyr newydd.

Mae'r Gymraeg i'w gael ar y fersiwn DVD neu'r set 2 CD, nid yw ar gael ar y CDs unigol.

CD1 a CD2 neu DVD neu ymweld â www.mandriva.com
Rhithffurf defnyddiwr
Rhoslyn Prys
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 111
Ymunwyd: Iau 26 Meh 2003 10:09 pm
Lleoliad: Bangor

Re: Mandriva Linux 2009 Cymraeg

Postiogan Dafydd ab Iago » Sad 18 Hyd 2008 6:56 pm

Dwi'n defnyddio Ubuntu 8.10 beta ar hyn o bryd. Ond ydy Mandriva yn rhad ac am ddim? Wnes i drio Mandrake blynyddoedd yn ol ond roedd rhaid talu am feddalwedd. Beth am Mandriva? Dwi ddim eisiau ymuno a rhyw Mandriva Club...
Ni ddylid gosod sticeri ar eitemau cyhoeddus.
Rhithffurf defnyddiwr
Dafydd ab Iago
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Iau 22 Meh 2006 3:38 pm
Lleoliad: Brwsel

Re: Mandriva Linux 2009 Cymraeg

Postiogan Jac Glan-y-gors » Sul 19 Hyd 2008 11:37 am

Dafydd ab Iago a ddywedodd:Dwi'n defnyddio Ubuntu 8.10 beta ar hyn o bryd. Ond ydy Mandriva yn rhad ac am ddim? Wnes i drio Mandrake blynyddoedd yn ol ond roedd rhaid talu am feddalwedd. Beth am Mandriva? Dwi ddim eisiau ymuno a rhyw Mandriva Club...

Mae fersiwn rhad ac am ddim ar gael fan hyn: http://www.mandriva.com/en/download

Os nag wyt ti eisiau ei lwytho ar dy gyfrifiadur mae modd ei redeg fel system rithiol o fewn Ubuntu:
http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/ ... virtualbox
Rhithffurf defnyddiwr
Jac Glan-y-gors
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 241
Ymunwyd: Sul 20 Gor 2003 3:05 pm
Lleoliad: Dyffryn Aeron


Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron