Newydd ei ryddhau mae fersiwn diweddaraf o'r unig gynhyrchydd dosbarthiadau Ewropeaidd - Mandriva Linux. Mae'r cwmni Ffrengig yn dilyn patrwm cyffredin o ryddhau bob chwe mis er mwyn cadw i fyny gyda'r datblygiadau diweddaraf. Mae'r fersiwn yma'n cynnwys KDE 4.1.2, sef y fdiweddaraf o'r bwrdd gwaith chwyldroadol (ar gyfer Linux!), fersiwn 2.24 o GNOME a datblygiadau newydd yn fframwaith Mandriva ei hun gan gynnwys gwedd newydd i'r rhaglen osod, offer argraffu newydd o Fedora a chysylltiad gwell gyda ffonau symudol.
Er mwyn cael y gorau o'r rhyngwyneb Cymraeg, defnyddiwch GNOME, yn anffodus does dim cyfieithiad Cymraeg o KDE yn KDE 4.1. Mae Mandriva'n parhau i fod y dosbarthiad gyda'r mwyaf o Gymraeg o'i fewn ac yn hawdd ar gyfer defnyddwyr newydd.
Mae'r Gymraeg i'w gael ar y fersiwn DVD neu'r set 2 CD, nid yw ar gael ar y CDs unigol.
CD1 a CD2 neu DVD neu ymweld â www.mandriva.com