Opera 9.6 Cymraeg

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Opera 9.6 Cymraeg

Postiogan Rhoslyn Prys » Gwe 17 Hyd 2008 7:31 pm

Mae'r rhyngwyneb Cymraeg wedi ei ddiweddaru ar gyfer y fersiwn diweddaraf o Opera.

Mae'r porwr gwe i'w gael oddi ar wefan Opera ac ewch i wefan Meddal i nôl copi o'r ffeil iaith Cymraeg. Dim ond y prif ieithoedd mae Opera yn darparu ar eu cyfer...

Mae Opera yn gweithio ar Windows, Mac a Linux ac mae cyfarwyddiadau gosod y ffeil iaith yr un peth i'r tri.

Mantais Opera yw ei fod yn cynnwys rhaglen e-bost reit handi o'i fewn ac mae'n gyflym yn llunio tudalennau gwe. Mae'n werth cael y dewis, beth bynnag...
Rhithffurf defnyddiwr
Rhoslyn Prys
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 111
Ymunwyd: Iau 26 Meh 2003 10:09 pm
Lleoliad: Bangor

Re: Opera 9.6 Cymraeg

Postiogan Jac Glan-y-gors » Sad 18 Hyd 2008 12:19 pm

Helo Rhoslyn: wedi trio hwn http://www.meddal.com/cyfieithu/opera/welsh.zip sawl gwaith (y ddolen o Meddal) ond heb lwc.
The connection to the server was reset while the page was loading. The network link was interrupted while negotiating a connection. Please try again.
Rhithffurf defnyddiwr
Jac Glan-y-gors
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 241
Ymunwyd: Sul 20 Gor 2003 3:05 pm
Lleoliad: Dyffryn Aeron

Re: Opera 9.6 Cymraeg

Postiogan Rhoslyn Prys » Maw 21 Hyd 2008 8:53 pm

Ymddiheuriadau... cysylltiad anghywir, wedi ei drwsio nawr. Doh!
Rhithffurf defnyddiwr
Rhoslyn Prys
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 111
Ymunwyd: Iau 26 Meh 2003 10:09 pm
Lleoliad: Bangor

Re: Opera 9.6 Cymraeg

Postiogan Jac Glan-y-gors » Mer 22 Hyd 2008 4:32 pm

Diolch Rhoslyn.
Gwefan meddal a ddywedodd:Gosod y ffeil iaith wedi ei ddatgywasgu o fewn ffolder Opera ar eich cyfrifiadur.

I osod Opera Cymraeg ar Ubuntu Linux mae angen copio ffeil Meddal (welsh.lng) i mewn i ffolder /usr/share/opera/locale.

Os ydych yn cael problem caniatad wrth wneud hyn (fel y gwnes i) dyma'r ateb. Copio'r ffeil i'r cyfeiriadur Cartref / Home. Agor terfynell (http://ubuntucymraeg.nireblog.com/post/ ... erfynell-1) a theipio:

sudo cp welsh.lng /usr/share/opera/locale a chyflwyno cyfrinair pan fydd yn gofyn.

Bydd hyn yn copio'r ffeil iaith i'r man priodol.

Wedyn agor Opera a dilyn y cyfarwyddiadau hyn:

http://www.opera.com/download/languagef ... form=linux
Rhithffurf defnyddiwr
Jac Glan-y-gors
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 241
Ymunwyd: Sul 20 Gor 2003 3:05 pm
Lleoliad: Dyffryn Aeron


Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai