Mae'r rhyngwyneb Cymraeg wedi ei ddiweddaru ar gyfer y fersiwn diweddaraf o Opera.
Mae'r porwr gwe i'w gael oddi ar wefan Opera ac ewch i wefan Meddal i nôl copi o'r ffeil iaith Cymraeg. Dim ond y prif ieithoedd mae Opera yn darparu ar eu cyfer...
Mae Opera yn gweithio ar Windows, Mac a Linux ac mae cyfarwyddiadau gosod y ffeil iaith yr un peth i'r tri.
Mantais Opera yw ei fod yn cynnwys rhaglen e-bost reit handi o'i fewn ac mae'n gyflym yn llunio tudalennau gwe. Mae'n werth cael y dewis, beth bynnag...