Songbird Cymraeg

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Songbird Cymraeg

Postiogan Rhoslyn Prys » Maw 21 Hyd 2008 9:10 pm

sori, nid Duffy...

Rhaglen sy'n debyg i iTunes (o bell). Mae'n rhaglen trefnu a chwarae cerddoriaeth ar eich cyfrifiadur ac yn gallu cysylltu â pheiriannau mp3 megis iPod. Mae hefyd yn cynnig modd o brynu cerddoriaeth ar-lein, er dwi heb sylwi ar siopau cerddoriaeth Cymraeg hyd yma. Tydi'r cyfan ddim ar gael yn Gymraeg, felly mae peth Saesneg i'w weld.

Ar gyfer y rhai sydd am ddianc rhag gormes ymerodraeth gyfalafol chwaethus yr hen Afal... ac ar gyfer y gweddill ohonom sydd am ddefnyddio rhaglenni yn Gymraeg.

Mae ar gael o wefan Songbird, gosod y rhaglen, clicio ar File > Language a dewis y Gymraeg. Bydd y ffeil iaith yn cael ei llwytho i lawr a'i gosod.

Diolch i clebin, phylb a mojo_jojo33
Rhithffurf defnyddiwr
Rhoslyn Prys
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 111
Ymunwyd: Iau 26 Meh 2003 10:09 pm
Lleoliad: Bangor

Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai

cron