phpBB Cymraeg - phpBB3 Cymraeg - Welsh phpBB

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

phpBB Cymraeg - phpBB3 Cymraeg - Welsh phpBB

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 28 Hyd 2008 7:42 pm

Sori am deitl yr edefyn, ond dwi am i hwn ymddangos yn uchel yn y peiriannau chwilio dan yr allweddeiriau perthnasol os yn bosibl.

Dros yr wythnosau/misoedd diwethaf mae sawl un wedi gofyn am y ffeiliau iaith Gymraeg ar gyfer phpBB, sef y meddalwedd sy'n rhedeg maes-e, a dwi wedi eu danfon ymlaen trwy ebost wrth gwrs. Er mwyn ei wneud yn haws, dwi nawr wedi gosod rhain ar y we fel bod modd i unrhywun ei lawrlwytho yn hawdd. Pwysa ar y ddolen isod i'w lawrlwytho:

Ffeiliau Iaith Gymraeg phpBB3 - http://www.gwynfor.net/phpbb3-cy.zip

Cwpwl o bethau.

Mae'r ffeiliau uchod yn gymysgedd o'r ffeiliau iaith gwreiddiol cafodd eu cyfieithu gan Nic Dafis a'r criw ar gyfer phpBB2, peth gwaith gan Barbarella i'w diweddaru i phpbb3 a wedyn fy ngwaith i yn gorffen y diweddaru, a gwaith Maredudd ap Gwyndaf yn cywiro'r gwallau wnes i yn y cod! :ofn: .

Mae peth gwallau iaith yno yn sicr, ac mae rhai ffeiliau heb gael eu cyfieithu'n llawn (yn enwedig y rhai tu ôl y llen.)

Hefyd, mae angen bod yn ofalus gan fod y cod wedi cael ei 'hacio' mewn ambell i le ar gyfer maes-e yn benodol (cyn fy amser i :winc: ). Dylid cymharu'r fersiynau Cymraeg yma gyda'r fersiwn Saesneg phpbb3 i wneud yn siwr nad oes rhai llinellau ar goll cyn cychwyn ar unrhyw waith o gywiro neu gyfieithu o'r newydd.

Roeddwn am uwchlwytho'r ffeiliau iaith yma i wefan phpbb fel cyfieithiad swyddogol, ond heb wneud gan eu bod yn anghyflawn. Os oes unrhywun yn cwblhau'r gwaith cyfieithu ac yn cywiro unrhyw gamgymeriadau, rhowch wybod. :D
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron