Maint 'screen resollution' wrth ddylunio tudalennau gwe

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Maint 'screen resollution' wrth ddylunio tudalennau gwe

Postiogan e-fugail » Iau 30 Hyd 2008 10:31 am

Beth da chi meddwl yw'r 'screen resolution' gorau i'w ddefnyddio pan dylunio tudalennau gwe, beth yw'r screen resolution mae rhan fwyaf o pobl yn defnyddio erbyn hyn, 1024 x 768? . Dwi wedi cael problemau drwy ddylunio stwff ar fy monitor 1440 x 900 heb ystyried be mae o'n edrych fel ar 1024 x 768.
e-fugail
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 52
Ymunwyd: Iau 26 Gor 2007 10:52 am

Re: Maint 'screen resollution' wrth ddylunio tudalennau gwe

Postiogan nicdafis » Iau 30 Hyd 2008 2:07 pm

Mae'r graff isod yn dangos cyfran ymwelwyr yn ôl maint eu sgrinau i'r wefan hon.

Delwedd

Yn ddelfrydol, ti moyn cynllun sy'n gweithio reit ilawr i 800x600, oni bai bod dim ots 'da ti am wneud safle mae 2.3% o bobl ddim yn gallu defnyddio'n hawdd. Ond yn sicr, mae angen wneud yn siwr bod pobl 1024x768 yn gallu defynddio fe - rheiny yw trydedd rhan o dy ymwelwyr potensial.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: Maint 'screen resollution' wrth ddylunio tudalennau gwe

Postiogan nicdafis » Iau 30 Hyd 2008 2:10 pm

Falle bydd y tiwtorial hwn yn ddefynddiol.

Y Tiwtorial a ddywedodd:Before you start you need to decide on your lowest screen resolution. Your web site will have to be designed keeping the lowest resolution in mind. Through our research we have found that less than 0.5% are on the 640 x 480 resolution So we ignore that completely.


640x480 oedd maint sgrîn fy PC cyntaf. Ddôs wer ddy dais.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: Maint 'screen resollution' wrth ddylunio tudalennau gwe

Postiogan e-fugail » Iau 30 Hyd 2008 2:47 pm

Dwi meddwl dwi am rhoi cardyn fideo a cysylltu gyda hen monitor 1024 x 768 ochr yn ochr wrth yr un presennol a gweld yn 'real time' y wahaniaeth rhwng y resolutions, safio fi gorfod mynd yn ol a newid resolution y sgrin pob tro tra'n dylunio.
e-fugail
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 52
Ymunwyd: Iau 26 Gor 2007 10:52 am

Re: Maint 'screen resollution' wrth ddylunio tudalennau gwe

Postiogan e-fugail » Iau 30 Hyd 2008 3:01 pm

..ac wrth gwrs , fase fo wedi helpu os fase fi wedi edrych yn ystadegau 'Visitors Screen resolutions' Google Analytics lle oedd tua 43% o ymwelwyr gyda 1024 x 768
e-fugail
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 52
Ymunwyd: Iau 26 Gor 2007 10:52 am

Re: Maint 'screen resollution' wrth ddylunio tudalennau gwe

Postiogan Duw » Gwe 31 Hyd 2008 10:13 pm

Roeddwn yn creu gwefannau lled 800px rhyw 5 mlynedd yn ol. Dwi'n meddwl ei fod yn ddiogel i greu am 1000px erbyn nawr. Er os wyt yn defnyddio CSS hylifol (fluid/elastic), bydd hyn yn newid yn awtomatig. Gallet osod derfynau gyda lled min-width ar gyfer rhai elfennau fel sidebars. Mae min-width yn gweithio'n iawn rhan fwyaf o'r amser - er gall fod yn trici gyda IE6. Os wyt yn mynd am fixed-width layout, bydd angen gosod meintiau penodol, er os wyt yn defnyddio meintiau mewn 'em' yn lle 'px', bydd y meintiau'n newid yn awtomatig wrth fod y defnyddiwr yn newid maint y ffont trwy'r porwr. Mewn geiriau eraill, mae 'na lwyth o opsiynau ar gael.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Maint 'screen resollution' wrth ddylunio tudalennau gwe

Postiogan 7ennyn » Sad 01 Tach 2008 2:09 am

Mae yna trend tuag at sgriniau llai y dyddiau yma. Dwi'n defnyddio gliniadur bach, sydd yn eitha 'cutting edge', ond hefo sgrin 800 x 400! Dylunia dy wefan fel ei fod yn gweithio ar unrhyw sgrin, ta waeth be ydi'r hyd a'r lled.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Re: Maint 'screen resollution' wrth ddylunio tudalennau gwe

Postiogan Duw » Sad 01 Tach 2008 9:03 am

Cywir 7 - mae llwyth o 'femtousers' mas 'na, sy'n mynnu gwneud pethe'n lletchwith.

E-fugail: Os wyt am fynd lawr trywydd layout hylifol, edrycha ar y wefan hon:

http://www.cssliquid.com/

Mae'n rhaid dweud bod layouts hylifol yn gallu edrych yn ffiaidd pan fydd y sgrin yn rhy fach neu'n rhy fawr. O ganlyniad, bydd angen gosod "terfynau" gyda phriodoleddau min-width a max-width. Mae layouts hylifol yn dibynnu ar fesuriadau mewn "%" yn hytrach na "px".

DS Mae fersiynau cynnar o IE yn gallu taflu woblis gyda max-width/min-width - neu peidio a'u deall o gwbl.

Yn ogystal a hyn, gallet gyfuno mesuriadau "%" a "px", e.e. i sicrhau maint penodol i sidebar ac i amrywio maint y brif ardal.

Mae enghraifft o rai o'r rhain yma:

http://blog.html.it/layoutgala/

DS Mae fersiynau cynnar o IE yn cael pwl o golled gyda chymysgedd o fixed a liquid/elastic - mae angen sicrhau bod gan bob colofn (neu DIV) y briodwedd "hasLayout".

Efallai dy fod yn gwybod hyn eisoes:

Os wyt am ddylunio ar gyfer ffonau symudol, bydd angen creu ffeil CSS hollol newydd a'i gysylltu yn yr adran HEAD fel hwn:

Cod: Dewis popeth
<link href="symudol.css" type="text/css" rel="stylesheet" media="handheld" />


Ar gyfer argraffu tudalennau, defnyddia ffeil CSS newydd arall (lle rwyt yn gallu gosod lled i ffitio A4 a chuddio rhannau fel y navbar a sidebars, e.e.:

Cod: Dewis popeth
div#navbar, div#sidebar, div#footer, div#banner{display:none;}


Y cod ar gyfer y ffeil argraffu yw:

Cod: Dewis popeth
<link href="argraffu.css" type="text/css" rel="stylesheet" media="print" />


Felly, mewn y rhan fwyaf o'm brosiectau, mae gennyf y canlynol:

Cod: Dewis popeth
<link href="prif.css" type="text/css" rel="stylesheet" media="screen" />
<link href="symudol.css" type="text/css" rel="stylesheet" media="handheld" />
<link href="argraffu.css" type="text/css" rel="stylesheet" media="print" />
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco


Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron