Cychwyn gwefan newydd sydd yn benodol ar gyfer lluniau..

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cychwyn gwefan newydd sydd yn benodol ar gyfer lluniau..

Postiogan ap concord y bos » Sad 22 Tach 2008 6:09 pm

Dwi gyda diddordeb mewn cychwyn gwefan sydd yn benodol ar gyfer asesus trafnidiaeth gyhoedus yma yng Ngogledd Cymru. Dwi'm am ddeud celwydd, dwim yn gwbod dim am ba 'host' i agor gwefan a sut i gael un da!

Oes gan rhywun unrhyw gyngor? Dwisho rhywbeth mwy na grwp ar flickr neu fotopoic, yn benodol lluniau fysa'n gael ei arddangos ar y wefan ynghyd a gwybodaeth mewn newidiadau a datblygiadau.

Diolch dwds!
ysgytlaeth mefus, maes-b 2005, swpyrb........
Rhithffurf defnyddiwr
ap concord y bos
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 470
Ymunwyd: Sad 16 Ebr 2005 10:32 pm
Lleoliad: Dyffryn Nantlle

Re: Cychwyn gwefan newydd sydd yn benodol ar gyfer lluniau..

Postiogan Duw » Sad 22 Tach 2008 11:11 pm

Os wyt am gynnal gwefan i gadw lluniau a storio gwybodaeth amdanynt, bydd angen databas arnat. Y fframwaith arferol yw pHp/MySQL (mae ASP/SQL Server yn opsiwn arall). Yn ogystal a hyn, mae'n bosib bod angen meddalwedd orielau arnat. Mae llwyth o'r rhain ar gael - nifer ohonynt gyda dewis iaith (togl). Dwi wedi cyfieithu un pecyn o'r enw Coppermine Gallery (http://www.wetwork.org.uk a dewis cyfieithiadau). Mae'r pecyn hwn yn ffynhonnell agored ac felly yn fwy cymhleth na rhai i'w arsefydlu. Bydd angen rhyw fath o feddalwedd arnat os wyt am ganiatau defnyddwyr i lwytho eu lluniau nhw.

Os wyt yn becso am codio/ffidlan gyda databasau, mae'n bosib gallet ddefnyddio gwasanaethau 3ydd parti (e.e. http://www.hiboox.com/).

Am becyn pHp/MySQL (gydag o leiaf un databas), bydd angen talu tua £60-90/blwyddyn. Rhai gwesteiwyr rwyf wedi defnyddio yn y gorffennol yw:

xcalibre.co.uk
streamline.net

Mae'r gwasanaeth rwyf wedi derbyn o'r ddau wedi bod yn wych, er mae pros and cons i'r ddau.


Edrycha ar 'www.evvnet.net' - mae'n cynnal gwesteio + pHp/MySQL AM DDIM!! Dim hysbysebion 'chwaith. Heb drio fe fy hun, ond gwerth shot i arbrofi. Posib ni fydd yn derbyn dy gais oherwydd cwmni UDA ydyw. Wrth gwrs, bydd angen prynu enw (.com/.net/.org/.biz/.us/.info ar gael). Dwi ddim yn meddwl bod hawl prynu '.us'


Edrycha mas am westeiwyr sydd yn arbenigo yn y maes orielau/graffeg. Dwi'n siwr bod sawl defnyddiwr maes-e wedi gosod gwefannau delweddau.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco


Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron