Na - mae hwn yn ofnadwy o hawdd i'w wneud. Dim ond pHp (neu ASP?) ar weinyddwr sydd ei angen. Mae'r ffwythiant pHp mail() yn dy alluogi i wneud hyn.
Mae ffwythiant mail yn cymryd y paramedrau canlynol:
- Cod: Dewis popeth
//Rhywbeth fel hyn:
$to = "diafol@uffern.eng";
$parthed = "Sbamalot";
$neges = "Dyma sbwff ebost - tyff titi ngwas i";
$headers = 'From: kez@yrealkez.org.uk' . "\r\n" . 'Reply-To: kez@yrealkez.org.uk' . "\r\n" . 'X-Mailer: PHP/' . phpversion();
$anfon = mail($to,$parthed,$neges,$headers);
Bydd dy e-bost di'n ymddangos yn y maes "FROM" nawr. Fel rheol dydy sbamwyr ddim angen gwneud hyn oherwydd maent angen i ymateb iddyn nhw, nid rhyw berson anhysbys. Swnio fel drigioni i mi.
Gwiria'r header swyddogol yn yr ebost ffug am fanylion pellach, dylai fod cyfeiriadau pellach yna. Hefyd, cysyllta gyda'r ISP neu'r cwwni sydd yn cynnal dy gyfrif e-bost, a gofyn iddynt am gymorth.
****GOLYGU****
Jest wedi meddwl - gwiria nid oes unrhyw un wedi ennill mynediad i dy gyfrif. Gwiria'r "sent/outbox" rhag ofn. Mae llawer fawr ohonom o dan fygythiad os ydym yn defnyddio'r un cyfrinair ar gyfer nifer o gyfrifon arlein. Os ydy drwgweithredwr yn gweld cyfrinair person ar rhyw system ac mae'n gwybod yr ebost, yn aml bydd y litl shit yn gallu ennill mynediad.
Yn bersonol, dwi'n cadw cyfrineiriau unigryw am bethe pwysig fel banc/ebost/cyfrifon siopa arlein, ond tueddu defnyddio'r r'un un am bethe trifial, e.e. youtube, facebook, maes-e! ac ati.
***/GOLYGU***