Sbam a'm e-bost

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Sbam a'm e-bost

Postiogan Kez » Maw 25 Tach 2008 1:10 pm

Ers wythnos ne ragor, wi wedi bod yn cal sbam sydd mae'n debyg yn dod o gyfeiriad fy e-bost fy hunan. Odi hyn yn golygu bod rhywun wedi twcyd fy e-bost ac yn towlu'r shit 'ma mas yn fy enw i. Ma amall i berson wedi ymweld a'm blog ar ol gwglo'r e-bost ac wi'm isha i neb feddwl bo fi'n anfon y stwff 'ma biti viagra a penis enlargers at bobol. Oes bosib ifi roi stop ar hwnna ne bydd raid ifi ddileu'r cyfeiriad a chal un newydd - ac a oes bosibl dileu cyfeiriad e-bost neu a ody fe mas na'n rhywle ar y rhyngrwyd am byth?

Diolch
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Sbam a'm e-bost

Postiogan Duw » Maw 25 Tach 2008 3:39 pm

Na - mae hwn yn ofnadwy o hawdd i'w wneud. Dim ond pHp (neu ASP?) ar weinyddwr sydd ei angen. Mae'r ffwythiant pHp mail() yn dy alluogi i wneud hyn.

Mae ffwythiant mail yn cymryd y paramedrau canlynol:

Cod: Dewis popeth
//Rhywbeth fel hyn:

$to = "diafol@uffern.eng";
$parthed = "Sbamalot";
$neges = "Dyma sbwff ebost - tyff titi ngwas i";
$headers = 'From: kez@yrealkez.org.uk' . "\r\n" . 'Reply-To: kez@yrealkez.org.uk' . "\r\n" . 'X-Mailer: PHP/' . phpversion();

$anfon = mail($to,$parthed,$neges,$headers);


Bydd dy e-bost di'n ymddangos yn y maes "FROM" nawr. Fel rheol dydy sbamwyr ddim angen gwneud hyn oherwydd maent angen i ymateb iddyn nhw, nid rhyw berson anhysbys. Swnio fel drigioni i mi.

Gwiria'r header swyddogol yn yr ebost ffug am fanylion pellach, dylai fod cyfeiriadau pellach yna. Hefyd, cysyllta gyda'r ISP neu'r cwwni sydd yn cynnal dy gyfrif e-bost, a gofyn iddynt am gymorth.

****GOLYGU****
Jest wedi meddwl - gwiria nid oes unrhyw un wedi ennill mynediad i dy gyfrif. Gwiria'r "sent/outbox" rhag ofn. Mae llawer fawr ohonom o dan fygythiad os ydym yn defnyddio'r un cyfrinair ar gyfer nifer o gyfrifon arlein. Os ydy drwgweithredwr yn gweld cyfrinair person ar rhyw system ac mae'n gwybod yr ebost, yn aml bydd y litl shit yn gallu ennill mynediad.

Yn bersonol, dwi'n cadw cyfrineiriau unigryw am bethe pwysig fel banc/ebost/cyfrifon siopa arlein, ond tueddu defnyddio'r r'un un am bethe trifial, e.e. youtube, facebook, maes-e! ac ati.
***/GOLYGU***
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Sbam a'm e-bost

Postiogan Kez » Maw 25 Tach 2008 7:02 pm

Diolch Duw - os dim byd yn y peth 'sent' ac yn anffodus, ifi yn iwso'r un cyfrinair ar gyfer popeth; dyna'r unig ffordd wi'n gallu cofio beth yw e. Wedi gweud hwnna, ma popith wi'n ymhel ag e ar y rhyngrwyd yn eitha trivial, ond shwt ffwc man nhw wedi cal gafal ar fy nghfrinair i ddechrau; pentre bach (?!) yn Arfon yw'r cyfrinair ac ma'r rhan fwya o bobol Gwynedd heb glwad amdano heb son am sbamwyr o ben draw'r byd.

Wi'm yn ddigon 'savvy' i ddeall gweddill dy ateb heb feddwl am gywiro'r broblem, felly'r peth gora yw ifi ofyn i Hambon i'm helpu fi mas dros y Nadolig. Hedd - os ti'n darllin hyn, fi ddywa i a'r gliniadur miwn yn Basingstoke - felly darllena be' mae Duw yn ei weud fel byddi di ar dop dy gem. Iawn, cariad :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Sbam a'm e-bost

Postiogan Duw » Maw 25 Tach 2008 10:52 pm

Edrycha fan hyn am wybodaeth:

http://www.spamresource.com/2007/07/ask-al-my-email-address-is-being-used.html

Mae'n swnio fel gallet fod yn "Joe Jobbed" os yw'n bwrpasol yn dy erbyn di.

Pellach i'm post:

Duw a ddywedodd:Gwiria'r header swyddogol yn yr ebost ffug am fanylion pellach,


Dylai fod opsiwn i droi "headers" ymlaen o dan dy "Settings" yn dy gyfrif e-bost. Wrth droi hwn ymlaen, dylet fod yn gallu gweld rhywbeth fel y canlynol (ces hwn oddi wrth bois Triathlon [dwi wedi newid rhai rhifau/geiriau]):

Cod: Dewis popeth
Return-Path: <bounces+13371.852142058.4093289@icpbounce.com>
Received: from smtp3.icpbounce.com (216.27.93.671) by mail-7.uk.fishforit.com (7.3.764)
        id 48DA26573ED6E8B for diafol@fishforit.co.uk; Tue, 25 Nov 2008 20:04:38 +0100
Received: from localhost.localdomain (localhost.localdomain [123.0.0.5])
   by smtp3.icpbounce.com (Postfix) with ESMTP id DD712426204F
   for < diafol@fishforit.co.uk >; Tue, 25 Nov 2008 13:47:06 -0500 (EST)
Date: Tue, 25 Nov 2008 13:47:06 -0500
To: diafol@fishforit.co.uk
From: "Beginnertriathlete.com" <newsletter@beginnertriathlete.com>
Subject: BeginnerTriathlete.com Newsletter
Message-ID: <0ebcbf1467551a29c0beac4627668a0e@localhost.localdomain>
X-Priority: 3
X-Mailer: PHPMailer [version 1.72]
Errors-To: bounces+13371.852143456.4753768@icpbounce.com
List-Unsubscribe: <http://app.icontact.com/icp/listunsubscribe.php?r=852142058&l=13371&s=NW45&m=4093768&c=13371>
X-List-Unsubscribe: <http://app.icontact.com/icp/listunsubscribe.php?r=852142058&l=13371&s=NW45&m=4753768&c=13371>
X-Unsubscribe-Web: <http://app.icontact.com/icp/listunsubscribe.php?r=852142058&l=13371&s=NW45&m=4753768&c=13371>
X-ICPINFO:
X-Return-Path-Hint: bounces+13371.852143456.4753768@icpbounce.com
MIME-Version: 1.0
Content-Type: multipart/alternative;
   boundary="b1_ 0ebcbf1467551a29c0beac4627668a0e"


Os wyt yn 'nabod rhywun sydd wedi derbyn spam oddi wrthot, gofyn iddynt bostio'r "header" yn debyg i hwn i ti felly dy fod yn gallu ei basio ymlaen i dy ISP/ cwmni e-bost. Bydd y wybodaeth hon gobeithio'n gallu tracio lawr y drwgweithredwyr. Yn anffodus, y siwns yw, bydd y twrds bach ma wedi gorffen gyda'r cyfrif maent wedi defnyddio a bydd y llwybr yn oer. Un bwynt o gysur, mae wancyrs 'ma'n defnyddio cyfrifol e-bost pobl eraill am ychydig o amser cyn symud ymlaen. Gyda lwc, dim ond 3 - 4 post spwff dylai fod wedi cael ei anfon (er pob un i llawer o bobl). Tra fy mod ar y pwynt, gwiria nid oes 'worm' ar dy gyfrifiadur - gall y rhain anfon e-byst at bawb yn dy lyfr cyfeiriadau.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Sbam a'm e-bost

Postiogan penarth » Sul 25 Ion 2009 12:18 am

Ma' na ddigon o brograms allan na i ddatrys rhyw gyfrinair.
Ma' nhw wedi bod (yn) dy gyfrifiadur di un ffordd neu'r llall.
Unai i 'ddarllen' dy restr o gyfrineiriau neu yn lythrennol i yrru post o dy brogram di.

Fe gaewyd fe nghysylltiad i a'r we gan KPN (BT chi) oherwydd y spam oeddwn yn chwdu allan i'r we , heb i mi hyd y oed wybod am y peth!
Roeddwn wedi pigo Trojan i fynnu ac roedd rhaid i mi gael madal o honno cyn i mi gael fy nghysylltiad yn ôl.

Mae'n syniad da 'cuddio' (encode) eich cyfeiriad ebost os ydi o yn cael ei ddangos ar dudalen we, mae gan hyn fwy i’w wneud a e-mail bots / spiders / mail harvesters ab yn chwilio am eich cyfeiriad i yru spam i chi.
Mae rhywin sydd yn defnyddio dy gyfeiriad di i yru spam i gyfeiriadau eraill ar lefel hollol gwahanol YFMGI !

O! Dyma diolch i Ddyw arall : Syniad da , dangos headers !
Y pen arall 'li :winc:
"I'm going to get some fries
I can see it in your eyes"
JimKDaAdtman
Rhithffurf defnyddiwr
penarth
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 19
Ymunwyd: Sad 03 Ion 2009 9:31 pm
Lleoliad: Y Ddaear.......... d'win meddwl...!


Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai