Duw a ddywedodd:Pa mor hawdd yw e i gynhyrchu gwefannau dwyieithog? Ar hyn o bryd dwi'n codio popeth fy hun (pHp/MySQL/Ajax) a chreu CMS fy hun o'r cychwyn. A oes angen defnyddio Joomfish?
Os oes gen ti'r gallu i godio CMS dy hun efallai y nei di ffeindio Joomla yn rhwystro ti rhag gneud pethe yn hytrach na dy helpu. I rywun fel fi sydd heb y gallu i wneud hynny mae'n cynnig ffordd hawdd (ac am ddim) o greu gwefan i bobl eraill ddiweddaru'n weddol hawdd.
Mantais mawr Joomla yw bod llawer iawn o estyniadau iddo:
http://extensions.joomla.org/Mae angen Joomfish i greu gwefan ddwyieithog neu amlieithog ac mae'n gweithio'n gret o ran rheoli cyfieithiad o wahanol elfennau (dewislenni / modylau / cynnwys). Gwefan Joomla ddwyeithog ar waith:
http://www.theatrfelinfach.com/ (dewislen gwaelod dde'r dudalen i newid iaith - mae opsiwn i roi baneri iaith ond mae pobl maes-e yn sensitif iawn am y pwnc!
viewtopic.php?f=15&t=25682 ).
Diolch eto am y gwaith - ti'n creu cronfa wych o feddalwedd gwe Cymraeg.