AVG Gwrth Feirws

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

AVG Gwrth Feirws

Postiogan e-fugail » Mer 03 Rhag 2008 8:29 pm

Ydy AVG gwrth feirws yn dda i rwbath neu dio jyst werth prynu CD Norton ?
e-fugail
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 52
Ymunwyd: Iau 26 Gor 2007 10:52 am

Re: AVG Gwrth Feirws

Postiogan bartiddu » Iau 04 Rhag 2008 1:05 am

Odd well da fi AVG 7, nes i uwchraddio i AVG 8 a mae''n anoddach i ddeall yn fy marn i, ond mae'n neud y job mor bell a welai i.
Heb cael problem hefo feirws ers buddsoddi mewn 7 a 8.
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Re: AVG Gwrth Feirws

Postiogan ceribethlem » Iau 04 Rhag 2008 10:56 am

e-fugail a ddywedodd:Ydy AVG gwrth feirws yn dda i rwbath neu dio jyst werth prynu CD Norton ?

Fi'n defnyddio AVG a byth wedi cael problemau gyda fe, ac mae e'n rhad ac am ddim. Bues i'n defnyddio Norton a nath a bwcho lan dau gyfrifiadur, felly bydden i'n cadw draw o hwnna. Gwrth-feirws y diafol yw Norton.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: AVG Gwrth Feirws

Postiogan ffwrchamotobeics » Iau 04 Rhag 2008 11:36 am

'swn i'n mynd am AVG neu Avira. Mae nhw'n cael yr adolygiadau gorau ac maent am ddim. Paid gwario ar Norton-dyw e ddim mor dda a'r lleill, yn arafu dy gyfrifiadur, popups dibaid ac yn costio bom!
Ma BitDefender yn dda hefyd ac yn costio £15

Avira sydd gen i ac ma'n wych (hyd yn oed gyda wefannau torrents etc.!)
Rhithffurf defnyddiwr
ffwrchamotobeics
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 912
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2003 9:06 am
Lleoliad: llanbibo

Re: AVG Gwrth Feirws

Postiogan e-fugail » Iau 04 Rhag 2008 12:15 pm

Ges i ddim problemau gyda Norton o'r blaen, dim arafu'r PC chwaith. Gweld bod HSBC yn rhoi Mcaffess am ddim i cwsmeriaid arlein hefyd - ond mae Mcaffee yn uffernol o araf, wnai treialu AVG am dipyn , faint yw cost fersiwn masnachol AVG felly? a beth yw'r gwahaniaeth rhwngddo a 'r fwersiwn am ddim?

diolch
e-fugail
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 52
Ymunwyd: Iau 26 Gor 2007 10:52 am

Re: AVG Gwrth Feirws

Postiogan ceribethlem » Iau 04 Rhag 2008 12:21 pm

e-fugail a ddywedodd:Ges i ddim problemau gyda Norton o'r blaen, dim arafu'r PC chwaith. Gweld bod HSBC yn rhoi Mcaffess am ddim i cwsmeriaid arlein hefyd - ond mae Mcaffee yn uffernol o araf, wnai treialu AVG am dipyn , faint yw cost fersiwn masnachol AVG felly? a beth yw'r gwahaniaeth rhwngddo a 'r fwersiwn am ddim?

diolch

O'r hyn dwi'n ddeall, mae'r un am ddim angen gael ei droi mlaen i sganio am feirws (er fod lle i osod amserlen e.e. canol dydd bob dydd). Gyda'r un sydd angen talu amdani, mae'n gweithio mewn real-time, hynny yw mae'n sganio popeth am feirws wrth iddo gael ei lawr-lwytho.

Fel wedes i, fi weddi cael y fershwn am ddim ers tro bellach, ac mae'n gweithio'n dda. Cyfrifiadur yn gweithio'n berffaith ers cael gwared o Norton.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: AVG Gwrth Feirws

Postiogan Gwenci Ddrwg » Llun 08 Rhag 2008 6:16 am

Mae AVG yn gweithio yn wych, oedd gen i fo ar fy nghyfrifiadur olaf a ches i ddim unrhyw problemau efo fo- rwan mae gen i Norton a dwi'n cael crashes weithiau a mae'r cyfrifiadur yn mynd yn araf pan dwi ar y rhyngrwyd neu pan dwi'n chwarae gemau ar-lein (ond falle mai Vista ydy'r problem). Swn i'n awgrymu AVG felly, mae o am ddim hefyd.
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto


Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 22 gwestai

cron