Aeth fy nghliniadur capwt yn ddiweddar. Nid oedd y bysellydd yn gweithio'n gywir - roedd yn taflu lan rwtsh fel "/b" ac ati yn lle'r allweddau cywir. Roedd y cursor keys yn anfywiog hefyd. Ces broblem y diawl i gael e nol. Yn anffodus, dwi ddim yn gwybod beth gwnes i i gael hyn nol (gweithredoedd: System Restore, bwt i Linux ac yna Restart a bwt i Vista). Pan fewngofnodais wedyn, roedd y Virus checker (McAfee) wedi troi ei hun bant (autochecks bant). Mae hwn wedi peri gofid oherwydd dwi ddim yn gwybod os bydd yn digwydd eto. A oes rhywbeth fel hyn wedi digwydd i rywun o'r blaen?
#DIWEDDARIAD#
Byger. Cliniadur wedi mynd capwt capwt. Nol i Dell a'r cabwdl. Edrych fel problem motherboard - posib dim i'w wneud gyda'r OS.
#/DIWEDDARIAD#