Problem Vista ar Dell Inspiron 1520 - bysellydd

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Problem Vista ar Dell Inspiron 1520 - bysellydd

Postiogan Duw » Sul 07 Rhag 2008 7:10 pm

Aeth fy nghliniadur capwt yn ddiweddar. Nid oedd y bysellydd yn gweithio'n gywir - roedd yn taflu lan rwtsh fel "/b" ac ati yn lle'r allweddau cywir. Roedd y cursor keys yn anfywiog hefyd. Ces broblem y diawl i gael e nol. Yn anffodus, dwi ddim yn gwybod beth gwnes i i gael hyn nol (gweithredoedd: System Restore, bwt i Linux ac yna Restart a bwt i Vista). Pan fewngofnodais wedyn, roedd y Virus checker (McAfee) wedi troi ei hun bant (autochecks bant). Mae hwn wedi peri gofid oherwydd dwi ddim yn gwybod os bydd yn digwydd eto. A oes rhywbeth fel hyn wedi digwydd i rywun o'r blaen?

#DIWEDDARIAD#
Byger. Cliniadur wedi mynd capwt capwt. Nol i Dell a'r cabwdl. Edrych fel problem motherboard - posib dim i'w wneud gyda'r OS. :rolio:
#/DIWEDDARIAD#
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Problem Vista ar Dell Inspiron 1520 - bysellydd

Postiogan Duw » Maw 16 Rhag 2008 12:07 am

Diolch am y tip 'E'. Yn anffodus, ffaeles i ennill mynediad i'r system er mwyn gwneud y backup diweddaraf. Bydd fy nisgyblion yn chwerthin eu penne bant os o'n nhw gwybod. Fy mantra yw "backup backup backup". Y trafferth mwyaf gyda hyn yw'r 'downloads'. Dwi byth yn gwneud backups o'r pecynnau hyn (e.e. zips). Gwell i mi ailedrych ar fy ngyfundrefnau dwi'n meddwl. Ho hym :rolio:

**DIWEDDARIAD**
Dell wedi'i ddychwelyd heddiw. Pedwar diwrnod!! Ffantastig - data'n gyflawn hefyd.
Yn anffodus daeth y diawl nol gyda'r bysellydd newydd dal yn bygerd. Gwnes system restore i fis yn ol a hei presto llwyddiant.
Beth oedd y siawns o hwnna? Problem caledwedd a meddalwedd ar yr un pryd?
Gwers i'w ddysgu - sicrhau bod cover cynhwysfawr yn parhau heibio'r flwyddyn. Duw a wyr beth byddwn wedi gwneud os oedd y cluniadur dros flwydd oed.
**/DIWEDDARIAD**
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco


Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron