E-lythyron

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

E-lythyron

Postiogan e-fugail » Mer 10 Rhag 2008 3:22 pm

Unrhyw un yn gwybod sut i atal e-lythyron (newsletters) cael ei 'manglo'? wrthi'n arborfi gyda un ac mae'n ymddangos yn berffaith pan mae o'n cyrraedd cyfrifon Hotmail/yahoo/G-mail pobl ond yn cael ei ddinistrio'n racs gan Virgin Media/NTL world :crechwen: unrhyw syniadau gan rhywun?
e-fugail
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 52
Ymunwyd: Iau 26 Gor 2007 10:52 am

Re: E-lythyron

Postiogan Llefenni » Mer 10 Rhag 2008 4:00 pm

Wastad yn ymarfer da da rhoi llinell ar ben yr e-lythr yn deud

"os nad ydych yn gallu gweld hwn yn glir,dewch i'n gwefan hyfryd ni i'w weld yn iawn"


neu yn saesneg

If this email is not displayed properly, please click here.
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Re: E-lythyron

Postiogan Duw » Maw 16 Rhag 2008 12:11 am

Dwi'n derbyn rhain yn aml gyda'r rhybudd cychwynnol:
"If this email has gone Picasso, click here."
Addas iawn o'n i'n meddwl.
Pethe afiach yw ebyst html yn fy marn i. Dwi'n eu dileu heb eu darllen ar egwyddor.
Mae gen i Blackberry i dderbyn ebyst. Dwi'n casau gorfod sgrolio lawr am 5 munud i fynd heibio'r html er mwyn darganfod y neges syml. Felly cynted dwi'n gweld <div> neu <a ...>, DELETE DELETE DELETE.

/*DIWEDDARIAD
Sori os oedd yr uchod yn swnio'n sarhaus. Os wyt am ychydig o wybodaeth ar safonau, cer at:
http://www.email-standards.org/
DIWEDDARIAD*/
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco


Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 18 gwestai

cron