Cuddio eich e-bost ar eich gwefan

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cuddio eich e-bost ar eich gwefan

Postiogan Duw » Sul 28 Rhag 2008 1:34 am

Er mwyn osgoi sbamwyr ac i sicrhau rydych dal yn gallu gosod dolen "mailto" ar eich gwefan, gallwch ddefnyddio cod gan Solmetra (http://www.solmetra.com/scripts/mailto/index.html). Ar gyfer "one-offs", mae'r sgript hwn yn iawn, ond os ydych am osod eich e-bost mewn sawl lle, neu rydych am gynnwys e-bost sawl person, rwyf wedi troi'r sgript mewn i ffwythiant pHp handi:

http://www.wetwork.org.uk/sgriptiau_wetwork/mailto.txt

Dyma'r cod:
Cod: Dewis popeth
<?php
//      CYMERWYD Y JAVASCRIPT ODDI WRTH SOLMETRA:
//      http://www.solmetra.com/scripts/mailto/index.html
//      Addaswyd i pHp gan xxxx xxxxxx, Wetwork, 2008

//=============== Defnydd =================================
// Rhowch y cod isod yn lle dolen e-bost normal, e.e.

//<p>Cysylltwch gan e-bost: <?php cuddiwr_e_bost("algernonquint@wetwork.org.uk","e: Algernon Quint");?> neu gan ...</p>

// Nawr bydd angen gosod y ffwythiant isod naill ai (i) mewn i ffeil "include" neu (ii) ei osod i ben y dudalen cyn y datganiad DTD (gweler y testun ar y gwaelod am fanylion ar sut i wneud hyn).


function cuddiwr_e_bost($ebost,$testun){
   //(cod Wetwork)
   $eb ="";
   $i=0;
   while($i < strlen($ebost)){
      $c = substr($ebost,$i,1);
      if($eb ==""){
         $eb = (ord($c) + $i);
      }else{
         $eb = $eb . "," . (ord($c) + $i);
      }
   $i = $i+1;
   }
   
   $tst ="";
   $i=0;
   while($i < strlen($testun)){
      $c = substr($testun,$i,1);
      if($tst ==""){
         $tst = (ord($c) + $i);
      }else{
         $tst= $tst . "," . (ord($c) + $i);
      }
   $i = $i+1;
   }
   //(cod Solmetra)
   $stwb = "<script type=\"text/javascript\">
   var spaf_eml = [{$eb}];
   var spaf_txt = [{$tst}];
   document.write('<a href=\"mailto:');
   cnt = spaf_eml.length; for (i=0; i<cnt; i++) { document.write(String.fromCharCode(spaf_eml[i]-i)); }
   document.write('\">');
   cnt = spaf_txt.length; for (i=0; i<cnt; i++) { document.write(String.fromCharCode(spaf_txt[i]-i)); }
   document.write('</a>');
   </script>
   <noscript>Galluogwch JavaScript er mwyn gweld y cyfeiriad e-bost!</noscript>";
   echo $stwb;
}

//(i) I'w osod mewn ffeil "include", gallwch wneud y canlynol:
// 1. Creu ffolder a'i enwi'n "includes" neu beth bynnag arall.
// 2. Creu ffeil newydd a'i alw'n ebost.inc.php.
// 3. Copio'r ffwythiant i'r ffeil gan gofio ei gwmpasu gan dagiau agor a chau php.
// 4. Tu fewn i'ch tudalen gwe, reit ar y top (cyn y DTD), rhowch y datganiad:
//      <?php
//         include_once("/includes/ebost.inc.php");
//      ?>
//
//
//(ii)   Fel arall, gallwch gopio a gludo'r ffwythiant i'r top (gan gofio gosod tagiau agor a chau php o'i gwmpas)
?>
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Cuddio eich e-bost ar eich gwefan

Postiogan penarth » Sad 24 Ion 2009 11:24 pm

Y link i Solmetra yn un da, ond dim yn gweithio mewn amgylchedd heb javascript.
Yr ail yn gymhleth i rhywin ddim yn ysgrifennu cod
Ma’ hwn yn un da hefyd , ddim yn hollol foolproof fel y maen dweud , ond yn nadu llawer o’r 'bots' hela cyfeiriadau e-bost.
http://www.wbwip.com/wbw/emailencoder.html
ee post@fyllewefi.cym yn
Cod: Dewis popeth
&#112;&#111;&#115;&#116;&#064;&#102;&#121;&#108;&#108;&#101;&#119;&#101;&#102;&#105;&#046;&#099;&#121;&#109;
"I'm going to get some fries
I can see it in your eyes"
JimKDaAdtman
Rhithffurf defnyddiwr
penarth
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 19
Ymunwyd: Sad 03 Ion 2009 9:31 pm
Lleoliad: Y Ddaear.......... d'win meddwl...!

Re: Cuddio eich e-bost ar eich gwefan

Postiogan Duw » Sul 25 Ion 2009 4:19 pm

Yep, ar yr arwyneb, mae hwn yn edrych fel syniad da, ond yn anffodus, does dim 'cuddio'. Hynny yw, gyda'r enghraifft rhoddais i, os wyt yn yn dadgryptio (ASCII nol i gymeriadau), fe geid di gobldigwc - dim defnydd o gwbl i gorynnod. Mae'r enghraifft rwyt wedi postio yn gallu cael ei dadgryptio'n hawdd gyda html_entity_decode(). Serch hynny, mae'n ddefnyddiol oherwydd diffyg js.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco


Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron