Tudalen 1 o 1

Metastwnsh

PostioPostiwyd: Llun 05 Ion 2009 9:54 pm
gan Rhodri Nwdls
Meddwl baswn i'n rhoi cyfeiriad bach i chi draw i flog technoleg a gwe Metastwnsh. Ma di bod yn mynd yn gyson ers cyn dolig rwan gyda dros 40 o gofnodion yn barod a 60 o sylwadau ar y rheiny. Ma na adolygiadau, erthyglau a newyddion am bopeth tech.

Os oes ganddoch chi newyddion, erthygl neu gynnyrch hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei drafod/adolygu ar Metastwnsh yna anfonwch ebost atom ni. Jest rhowch "enw cynta + @metastwnsh.com" a gyrhaeddith un o'r 4 ohonon ni (Gareth, Rhys, Aled, Rhodri).

Yn ddiweddar dwi di sgwennu erthygl ar "Cymru a Gwe 2.0" sy'n trafod be di rhai o'r problemau sy'n wynebu ni o ran cael datblygiad pellach yn y we Gymraeg, a hoffwn i gael sylwadau arno a be da chi'n meddwl di rhai o'r problemau neu atebion, felly ewch draw i gael cip os ma hynny fyny'ch stryd chi!

Re: Metastwnsh

PostioPostiwyd: Maw 06 Ion 2009 1:01 pm
gan Griff-Waunfach
Mae'r erthygl ar Gwe 2.0 gwerth ei darllen!!!