Bore Da,
Yn dilyn sgwrs ar y ffôn gyda rhywun yn eich swyddfa yn Aberystwyth bore ‘ma ynglŷn a defnyddio Technoleg Gwybodaeth drwy yr iaith Gymraeg rwyf wedi atodi cyflwyniad i’r e-bost yma.
Rydym yn cynnig y gwasanaeth yma yn ddi-dâl hyd at ganol mis Ionawr.
Mae’r pecyn yn trosi iaith nifer o wahanol ddarnau o feddalwedd i’r iaith Gymraeg. Rwyf wedi cynnwys rhestr isod o’r meddalwedd sy’n cael ei gefnogi:
Microsoft Windows Vista
Microsoft Windows XP
Microsoft Office 2007
Microsoft Office 2003
Rhan canolig y meddalwedd yma yw’r Canolfan Rheoli Iaith. Mae’r meddalwedd yma yn galluogi’r defnyddiwr/wraig i newid rhwng yr iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg o fewn nifer fychain o gliciau, (2 ar Windows XP, 4 ar Windows Vista). Mae’r pecyn yma yn cynnwys geirfa Technoleg Gwybodaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg er mwyn hwyluso eich defnydd o’r pecyn.
Rydym hefyd yn medru cynnig pecyn To Bach er mwyn rhoi to ar ben llythrennau cyffredin, gwirydd sillafu i Microsoft Office XP a pecyn Cysgliad i beiriannau Apple Macintosh sy’n rhedeg Mac OS X 10.3 neu hwyrach.
Gan taw cynllun prawf yw hwn ar hyn o bryd rydym yng nghlwm wrth weithredu yn Ceredigion, Sir Gâr a Chaerdydd.
Os yw hyn yn cwmpasi unrhyw gwmni y byddwch yn meddwl bydd a diddordeb yn y meddalwedd, mae croeso I chi rhoi ein manylion cyswllt iddynt.
rhys@telem.co.uk / Ffôn +44 (0)1239 712345 / Ffacs +44 (0)1239 710358