Tudalen 1 o 1

Tric bach da i gyflymu eich cyfrifiadur

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ion 2009 3:22 pm
gan Hedd Gwynfor
Roedd y cyfrifiadur yn dechre mynd yn araf, a dywedodd rhywun i mi weld pa raglenni sy'n cychwyn yn ddiofyn pan mae'r cyfrifiadur yn agor, ac sy'n rhedeg yn y cefndir.Wnes i edrych a synnu fod cymaint o raglenni di-werth yn rhedeg yn y cefndir, a doedd bron dim un o unrhyw werth i mi.

Ers i mi gau y rhan helaeth o'r rhain (wedi mynd o tua 30 i 3!!) mae'r cyfrifiadur yn gweithio lot fawr yn gynt!

Gwybodaeth ar sut i wneud yma ac yma, mae rhestr o beth yn union yw'r holl raglenni yma, a'u pwysigrwydd.

Re: Tric bach da i gyflymu eich cyfrifiadur

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ion 2009 8:06 pm
gan Duw
Gwych Hedd! Wedi rhoi cynnig arno - mynd fel bom nawr. Un o'r peth mwya peryglus i wneud yw tynnu gwasanaeth hanfodol ac mae cael gwybodaeth ddibynadwy'n anodd iawn. Dolenni 'ma'n rhan o'm hoffterau nawr. Diolch iti :D .

Re: Tric bach da i gyflymu eich cyfrifiadur

PostioPostiwyd: Mer 21 Ion 2009 9:57 pm
gan penarth
Hei Duw, Bysa'r dudalen yma yn rhiw gymorth i ti : http://www.theeldergeek.com/services_guide.htm#Services
Ta ydw'i wedi camddeall??
Dydw i ddim yn gwybod os ydi o'n ddibynadwy ond mae o'n ddiddorol iawn!

Dyma un dda yn delio a cyflymu perfformiad eich cyfrifiadur : http://kadaitcha.cx/performance.html

Re: Tric bach da i gyflymu eich cyfrifiadur

PostioPostiwyd: Iau 22 Ion 2009 1:16 am
gan Duw
Pen da!