Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:Tybed pa mor brysur/poblogaidd fydd y fforwm drafod ar y wefan? Os na ellir cyrraedd ffigwr o 80+ ar-lein yr un pryd (a hynny yn eitha aml)ar ol tri mis yna dylid dechrau gofyn ambell i gwestiwn caled a phigog.
Dwi'n amau bydd ganddyn nhw fforwm drafod beth bynnag. A dwi'n gobeithio na fydd ganddyn nhw. Distraction fydda hynny.
Mwy o newyddiaduraeth Gymraeg o safon dwisio'i weld nid blwch tywod arall. Be ddiawl di'r otsh am 'nifer ar-lein' dio'n golygu dim byd o gwbl.
Ti'n hollol obsesd Wylit. Mae sgyrsiau Cymraeg ar y we wedi mynd yn wasgaredig - dros blogs, twitter, Facebook, Youtube, a'r torreth gwefannau eraill gyda elfen gymdeithasol - ac mae hynny'n beth da. Alli di ddim rhoi hynny nôl yn y bocs. Mae o ond yn mynd i gynyddu, gyda phob math o wefannau rwan yn cynnig blwch i roi sylwadau neu drafod.
Erbyn hyn da ni angen rhywle i'n cyfeirio ni at y sgyrsiau hyn. I'n cyfeirio at y cynnwys da a rhoi lle i'w drafod. Os gall Golwg wneud hynny, ochr yn ochr a bod yn bapur ar-lein, yna bydda i'n ddigon hapus. Ond dwi ddim yn disgwyl iddyn nhw, achos newyddiaduraeth ddyla fod eu prif amcan.
Fasa fforwm arall yn dda i ddim i unrhywun, ac yn fy marn i fasa'n gam mawr yn ôl.