Zen Cart a RSS

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Zen Cart a RSS

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 09 Chw 2009 10:19 pm

Dwi'n rhedeg gwefan sy'n defnyddio Zen Cart ar gyfer y cwmni dwi'n gweithio iddi, ond yn anffodus dyw Zen Cart ddim yn dod gyda unrhyw adnodd RSS. Y rheswm dwi eisiau RSS yw er mwyn gallu ychwanegu'r nwyddau i system newydd chwilio nwyddau Google yn hawdd - http://www.google.co.uk/prdhp

Dwi wedi darganfod ategyn i wneud ffrwd RSS sef hwn http://www.zen-cart.com/index.php?main_ ... cts_id=733

Ond dwi'n methu a'i gael i weithio'n iawn. Mae'r gwall canlynol ar y dudalen RSS - http://www.cadwyn.com/rss_feed.html :

Cod: Dewis popeth
Gwall didoli XML: Nid yw datganiad testun neu XML ar gychwyn yr endiid
Lleoliad: http://www.cadwyn.com/rss_feed.html
Rhif Llinell 1, Colofn 2: <?xml version="1.0" encoding="iso-8859-1"?>
-^


Rhywun yn gwybod be mae'n meddwl? :?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Zen Cart a RSS

Postiogan Duw » Llun 09 Chw 2009 10:44 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:
Cod: Dewis popeth
Gwall didoli XML: Nid yw datganiad testun neu XML ar gychwyn yr endiid
Lleoliad: http://www.cadwyn.com/rss_feed.html
Rhif Llinell 1, Colofn 2: <?xml version="1.0" encoding="iso-8859-1"?>
-^


Rhywun yn gwybod be mae'n meddwl? :?


Wrth ei siap hi, encoding="iso-8859-1" yw'r broblem. Os oes symbolau arbennig (w, y gyda tho, neu hyd yn oed llythrennau gydag acenion eraill, gall achosi gwall)

Newid y pennyn i hwn:
Cod: Dewis popeth
<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?>


Os ydyw dal yn ware lan, tria hwn:
Cod: Dewis popeth
<?xml version="1.0" encoding="UTF-16"?>


Gall golygwyr testun gadw'r ffeil mewn fformat anffodus.

Rwyt hefyd yn gallu gwneud hyn:
Cod: Dewis popeth
<?xml version="1.0"?>
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Zen Cart a RSS

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 10 Chw 2009 10:56 am

Diolch am hwn Duw. Roedd yn cymryd 'iso-8859-1' allan o'r ffeiliau iaith 'cymraeg' ac 'english' cyffredinol. Wrth newid y ffeiliau yma i gynnwys 'UTF-8' yn lle, roedd to bach a arwydd y bunt ac ambell beth arall ddim yn dangos yn iawn ar y wefan. Hefyd, wrth fynd i dudalen y ffrwd http://www.cadwyngifts.com/rss_feed.html yr unig wahaniaeth oedd hyn:

Gwall Dosrannol XML : datganiad xml ddim ar gychwyn endid allanol <?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?>
-^

Wrth newid y ffeiliau iaith i gynnwys 'UTF-16' aeth y wefan yn gobeldigwc gyda dfim ond marc cwestiwn a rhifau ymhobman, felly newidais nol i 'iso-8859-1' go gloi! :winc:

Dwi'n ame mai fi sydd wedi gosod y peth yn anghywir rhyw ffordd, ond ddim yn deall ble! :? Wedi gadael cwetiwn ar forwm Zen Cart yn yr edefyn perthnasol, ond heb glywed dim yn ol yn anffodus...
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Zen Cart a RSS

Postiogan Duw » Maw 10 Chw 2009 3:42 pm

Wyt ti wedi ceisio a tynnu'r cymal yn gyfan gwbl?

Ambell waith gall ffeiliau sydd wedi eu cadw ar ffurf ANSI daflu wobli wrth cael eu gosod mewn XML. Agora d'olygydd testun, e.e. Notepad++ (neu beth bynnag rwyt yn defnyddio) a sicrhau bod 'UTF-8 without BOM' wedi'i ddewis fel fformat.

Mewn rhai golygyddion mae UTF-8 with BOM yn opsiwn. Osgoi hyn - mae'n rhoi cymeriadau anweledig ar ddechrau'r ffeil sy'n bygro lan rhai porthwyr.


Yna newidia'r cymal fel o'r blaen.

HEFYD, gall fod y porwr ar fai. Dylai porwyr adnabod encodio'n awtomatig o'r pennyn, ond mae rhai (fel Chrome) yn boen ac mae'n rhaid gwneud hyn gan law ambell waith (Encoding...).


Ger llaw mae'r encodio ISO-8859-14 yn gorchuddio pob lythyren naturiol y Gymraeg (cynnwys w/W ac y/Y gyda tho).
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Zen Cart a RSS

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 10 Chw 2009 4:23 pm

Diolch, ond pa ffeiliau yn union dylen i newid? Does dim ffeil rss_feed.html yn bodoli mewn gwirionedd, mae'n cael ei greu gan y rhaglen. Ermwyn gosod yr ategyn yma, roedd rhaid i mi Uwchlwytho'r ffeiliau canlynol:

\includes\classes\rss_feed.php
\includes\extra_datafiles\rss_feed.php
\includes\functions\extra_functions\rss_feed.php
\includes\modules\pages\rss_feed\header_php.php
includes\languages\cymraeg\extra_definitions\rss_feed.php
includes\languages\english\extra_definitions\rss_feed.php
\includes\templates\YOUR_TEMPLATE\css\rss
\includes\templates\YOUR_TEMPLATE\css\RSS_CSS_read_me,txt

Cod: Dewis popeth
The CSS/XLS files are sent to the browser in this order: (and alphabetically within each case of more than one match):

             rss*.css   // are always loaded and at least ONE should contain site-wide properties.
             rss*.xls   // are always loaded and at least ONE should contain site-wide properties.


\includes\templates\YOUR_TEMPLATE\rss_feed\html_header.php
\includes\templates\YOUR_TEMPLATE\rss_feed\tpl_main_page.php
\includes\templates\YOUR_TEMPLATE\images\rss.gif
\includes\templates\YOUR_TEMPLATE\images\rss.png

Wnes i chwilio trwy'r ffeiliau am <?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?>

yr unig beth gallai ddod o hyd iddo yw yn y ffeil yma: /includes/classes/rss_feed.php

Cod: Dewis popeth
function rss_feed_content() {
    $feedContent = '<?xml version="1.0" encoding="' . $this->encoding . '"?'.'>' . "\n";


Wedi trio dileu jest encoding="' . $this->encoding . '"?'.' ond dim yn digwydd. Wedi dileu y cwbwl, ac wedyn mae tudalen wag yn dangos :?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Zen Cart a RSS

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 10 Chw 2009 4:29 pm

Gyda llaw, dyma'r opsiynnau sydd gyda fi yn y Cotrol Panel:

Title Value Action
RSS Title Cadwyn Info
RSS Description RSS Cadwyn Info
RSS Image Info
RSS Image Name RSS Cadwyn Info
RSS Copyright RSS Cadwyn Info
RSS Managing Editor Info
RSS Webmaster Info
RSS Default Feed products Info
RSS Home Page Feed products Info
RSS Author Hedd Gwynfor
Strip tags false Info
Generate Descriptions true Info
Descriptions Length 0 Info
Categories for Products master Info
Time to live 1440 Info
Default Products Limit 100 Info
Add Product image true Info
Add "buy now" button true Info
Generate Products Price true Info
Generate Products ID true Info
Generate Products Weight true Info
Generate Products Brand true Info
Generate Products Currency true Info
Generate Products Quantity true Info
Generate Products Model true Info
Generate Products Rating true Info
Generate Products Images true Info
Generate Products Images Size large Info
Feed Cache Time 10 Info
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Zen Cart a RSS

Postiogan Duw » Maw 10 Chw 2009 9:35 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Wnes i chwilio trwy'r ffeiliau am <?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?>

yr unig beth gallai ddod o hyd iddo yw yn y ffeil yma: /includes/classes/rss_feed.php

Cod: Dewis popeth
function rss_feed_content() {
    $feedContent = '<?xml version="1.0" encoding="' . $this->encoding . '"?'.'>' . "\n";


Wedi trio dileu jest encoding="' . $this->encoding . '"?'.' ond dim yn digwydd. Wedi dileu y cwbwl, ac wedyn mae tudalen wag yn dangos :?


Dwyt ti ddim yn mynd i weld encoding="UTF-8"! Oherwydd nid yw hwn yn bodoli - dyma beth rwyt ei angen i fod.

Y darn tu fewn code yw'r peth allweddol. Y trafferth oedd gwnest di gael gwared y "?" hefyd wrth ddileu'r cymal. Mae "?" yn rhan o dag cau XML (<?xml ... ?>). Gellid drio eto, ond i mi, y peth gore i wneud yw chwilio dy ffeiliau (e.e. config.php neu debyg am ye encodiad perthnasol: iso-8859-1 a'i amnewid gydag 'UTF-8'.

Os oes rhaglen megis Dreamweaver gennyt, gallet wneud chwiliad fel hyn:

Edit > Find and Replace ... >
Find in: Entire Current Local Site
Search: Source Code
dewis iso-8859-1 yn y maes Find.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco


Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron