Google Summer of Code 2009

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Google Summer of Code 2009

Postiogan donnek » Mer 18 Chw 2009 10:54 pm

Mae Google yn derbyn ceisiadau am GSOC 2009:

Eisiau sgwennu cod agored?
Eisiau gwneud pres?
Eisiau gwneud y ddau?

Dros y blynyddoedd diweddar, mae Google Summer of Code(TM) wedi cyfarwyddo bron
2,500 o fyfyrwyr i fwy na 180 project cod agored er mwyn creu miliynau o
linellau o god. Rydym yn chwilio am fentoriaid a myfyrwyr i ymuno â ni i
wneud 2009 y Summer of Code gorau eto! Mi fyddwn ni'n cynnig tâl o $4,500 i
fyfyrwyr llwyddiannus sy'n cyfrannu, iddyn nhw gael canolbwyntio ar eu
projectau codio yn ystod tri mis yn yr haf.

Diben y rhaglen Google Summer of Code yw perswadio rhagor o fyfyrwyr i
ddatblygu cod agored. Ers dechrau yn 2005, mae'r rhaglen wedi ceisio:

Ysbrydoli datblygwyr ifainc i gychwyn cyfrannu cod agored
Rhoi'r cyfle i fyfyrwyr Technoleg Gwybodaeth a meysydd tebyg i wneud gwaith yn
ystod yr haf gyda pherthynas â'u gwaith academaidd
Rhoi rhyw syniad i fyfyrwyr o sut mae'n teimlo i ddatblygu meddalwedd yn y byd
gwaith (e.e., datblygu dosbarthedig, cwestiynau am y drwydded orau, cwrteisi
ar restrau ebost, ac ati)
Helpu creu a rhyddhau rhagor o god agored er mantais i bawb
Helpu projectau cod agored i adnabod a chroesawu datblygwyr newydd

Bydd Google yn derbyn ceisiadau oddiwrth projectau cod agored o 9-13 Mawrth
2009 ymlaen. Bydd yn derbyn ceisiadau oddiwrth myfyrwyr o 23 March-3 April
2009 ymlaen.

Gweler manylion llawn am y gofynion, yn cynnwys sut i wneud cais a hanes y
crys-T hanfodol, ar
http://code.google.com/soc/
donnek
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 16
Ymunwyd: Iau 12 Ion 2006 2:47 pm
Lleoliad: Llanfairpwll

Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron