Firefox

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Firefox

Postiogan Gwenci Ddrwg » Gwe 15 Mai 2009 4:15 am

Nes i ddarganfod Firefox sbel yn ôl pan ces i broblem efo IE- heb fynd yn ôl erioed. Eniwe os ti eisiau tips, mae geiriadur awtomatig ar gael sy'n cywiro popeth mewn textbox (yn Gymraeg yn ogystal a Saesneg, Ffrangeg ayyb). Defnyddiol go iawn!
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: Firefox

Postiogan Al » Maw 19 Mai 2009 5:02 pm

Os na rhywun wedi sylwi fod on cael ei neud yn swyddogol or diadd?

http://www.mozilla.com/en-US/firefox/all.html, yn y gwaelod...
Al
 

Re: Firefox

Postiogan HuwJones » Mer 20 Mai 2009 12:47 pm

Os na rhywun wedi sylwi fod on cael ei neud yn swyddogol or diadd?
http://www.mozilla.com/en-US/firefox/all.html, yn y gwaelod..
.

... Do - da iawn.. chwarae teg i'r criw sydd tu ol y cyfieithu am bob dim (Rhoslyn Prys & Canolfan Bedwyr???). Am flynyddoedd roedd y cyfieithiad ar gael i'r Gymraeg ond dim ar y rhestr yno am rhyw rheswm ac roedd rhaid fynd i lot o drafferth i chwilio a ffidlan i gael dy Firefox yn Gymraeg. Mae hyn yn lot lot well. Dwi'n siwr bydd mwy yn ei ddefnyddio rwan
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Re: Firefox

Postiogan ceribethlem » Mer 03 Meh 2009 7:19 am

ceribethlem a ddywedodd:Wel, fi wedi cael firefox am rhyw fis a hanner. Rhaid dweud fi ddim yn rhy hapus gyda fe, ac wedi newid nol i IE. Mae'r peth yn rhewi'n gyson (yn arbennig pan yn agor tabiau) ar y cluniadur (sy'n rhedeg ar Vista) heb ddefnyddio fe digon ar y PC (XP) i benderfynnu os oes angen ei dynnu fe bant o hwnna eto neu beidio.

Ers i fi ddarganfod y broblem hyn mae'n bosib mod i'n fyrbwyll yn dileu firefox. Byddai'n ail lwytho fe heno (ond gadael IE yna achos mae'r wejen yn lico fe) a chael ail gynnig arni.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Nôl

Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron