Firefox

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Firefox

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 19 Maw 2009 10:21 am

Duw a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:
Hedd Gwynfor a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:"Quick Locale Switcher" wedi gosod yn ddi-ffwdan. Gwrthod rhoi'r pecyn Cymraeg am ryw reswm. Vista'n od? Ges i drafferth yn llwytho chwareuwr fflach ddoe 'fyd.


Mae'n rhedeg yn iawn gyda fi ar Vista :? Gwna'n siwr dy fod yn dilyn y cyfarwyddiadau'n iawn.. :winc:

Wedi dilyn popeth, y pecyn Cymraeg ddim yn agor yn iawn. Mae'n gweud fod y cyfrifiadur ddim yn nabod y rhaglen :?
Mae'r rhan bach iaith ar y gwaelod ar y dde yn gweithio, ond dyw e' ddim yn newid dim i'r Gymraeg.
Byddai'n trial eto rhywbryd.


Wnest ti lawrlwytho o'r wefan Gymraeg?

http://cy.www.mozilla.com/cy/


aha... does dim son am hwn ar wefan meddal. Yw'r pecyn iaith yn rhan o hwn felly? Ar wefan meddal mae cyfarwyddiadau ar sut i lawrlwytho'r rhaglen yn Saesneg, a wedyn newid y rhyngwyneb i'r Gymraeg, a dyna'r cyfarwyddiadau dwi wedi dilyn, ac mae'n gweithio'n iawn gyda fi ar XP a Vista. Ond, os oes modd lawrlwytho'r rhaglen gyda'r rhyngwyneb Cymraeg wedi ei osod yn barod, byddai hynny lot yn well! Yw'r geiriadur Cymraeg wedi gosod yn hwn hefyd, neu a oes angen gosod hwn yn ychwanegol?

Gyda llaw, cofiwch wneud yn siwr fod eich porwr yn chwilio am fersiwn Gymraeg o wefan (os yw'n bodoli, ac os mae'r wefan wedi cael ei adeiladu'n gywir) yn 1af. (Ddim yn siwr os yw hyn wedi ei wneud ar eich rhan os yn lawrlwytho'r fersiwn uchod o wefan Firefox?!?) I wneud hyn:

Pwyswch ar y tab Offer (Tools)
Dewiswch 'Dewisiadau' (Options)
Pwyswch ar y tab 'Uwch' (Advanced)
Yn yr adran 'Ieithoedd' (Languages) Pwyswch ar y botwm 'Dewiswch'
Gwnewch yn siwr mai 'Cymraeg [cy]' sydd ar frig y rhestr. Os nad yw yna o gwbwl, ychwanegwch trwy bwyso ar ychwanegu a'i ddewis o'r rhestr. Os nad yw ar y brig, pwyswch ar 'Cymraeg [cy]' a wedyn y botwm 'Symyd i Fyny'. Os yw'r dewis ar gael rhowch '[cy-gb]' fel ail ddewis yn y rhestr hefyd.

cymraeg.jpg
cymraeg.jpg (43.86 KiB) Dangoswyd 5700 o weithiau
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Firefox

Postiogan ceribethlem » Iau 19 Maw 2009 12:20 pm

Duw a ddywedodd:Os o'n i ti, byddwn yn dileu FF yn gyfan gwbl a gwneud arsefydliad glân.

Diolchaf, byddai'n cael shot yn neud hwnna heno. Dileu popeth drwy Add/Remove Programs?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Firefox

Postiogan ceribethlem » Iau 19 Maw 2009 4:58 pm

Canlyniad! Popeth yn Gymraeg nawr. Diolch i Dduw :winc:
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Firefox

Postiogan Duw » Iau 19 Maw 2009 8:20 pm

Blydi gwd myn. Diolch i ti hefyd - ers i Chrome ddod mas - dyna'r unig porwr dwi wedi defnyddio o ddydd i ddydd. Rwyt wedi neud i fi ailgydio mewn FF - anghofio pa mor ddefnyddiol yw e - mae'r ategynnau webdev yn wych.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Firefox

Postiogan Rhys » Sul 22 Maw 2009 8:43 am

Galli di ychwanegu nifer o wahanol wefannau i'r blwch ymchwilio yny gornel dde uchaf, sy'n gwneud ycmchilio'n lot cynt. Ti'n gallu ychwnaegu pethau fel Amazon, e-bay a hyd yn oed Geiriadur Llambed ato.
firefox.jpg
firefox.jpg (23.26 KiB) Dangoswyd 5597 o weithiau
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Firefox

Postiogan mwgdrwg » Gwe 17 Ebr 2009 9:10 am

Ti'n gallu gwneud Firefox edrych yn fwy Cymreig rwan gan ddefnyddio "persona":

http://www.getpersonas.com/persona/9977#

Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
mwgdrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 144
Ymunwyd: Gwe 03 Medi 2004 10:25 am

Re: Firefox

Postiogan ceribethlem » Sul 03 Mai 2009 4:42 pm

Wel, fi wedi cael firefox am rhyw fis a hanner. Rhaid dweud fi ddim yn rhy hapus gyda fe, ac wedi newid nol i IE. Mae'r peth yn rhewi'n gyson (yn arbennig pan yn agor tabiau) ar y cluniadur (sy'n rhedeg ar Vista) heb ddefnyddio fe digon ar y PC (XP) i benderfynnu os oes angen ei dynnu fe bant o hwnna eto neu beidio.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Firefox

Postiogan Duw » Sul 03 Mai 2009 7:25 pm

Rhaid dweud ma FF3 yn araf iawn yn llwytho 'da fi hefyd. Dwi'n defnyddio Chrome rhan fwyaf o'r amser. Er gwaetha'r ffaith nid oes fersiwn Cymraeg ar gael eto - mae'n gyflym, rhedeg scripts yn ofnadwy o gyflym ac yn weddol sefydlog er taw 'beta' ydyw.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Firefox

Postiogan Madrwyddygryf » Llun 04 Mai 2009 11:06 am

Ia ti'n iawn. Mae Chrome yn un da ond eitha syml a dwyt ti ddim yn gallu allforio dy ffefrynau. Mae Firefox yn dda oherwydd yr holl add-ons. Mae gennai facebook toolbar, twitterfox, shareholic ac feedly. Mae feedly yn dda iawn achos mi mae'n allforio popeth sydd ar dy google reader ac cyflwyno mewn ffurf cylchgrawn.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Firefox

Postiogan HuwJones » Gwe 08 Mai 2009 8:06 am

Dwi newydd diweddaru i'r fersiwn newydd o Firefox. A wnaeth yr holl beth digwydd yn awtomatig mwy neu lai ac roedd yr holl beth yn Gymraeg heb orfod chwilio. GRET!!!! Da iawn i bawb sydd wedi gweithio gyda Mozzila gyda'r cyfieithu.
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

NôlNesaf

Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 19 gwestai

cron