Duw a ddywedodd:ceribethlem a ddywedodd:Hedd Gwynfor a ddywedodd:ceribethlem a ddywedodd:"Quick Locale Switcher" wedi gosod yn ddi-ffwdan. Gwrthod rhoi'r pecyn Cymraeg am ryw reswm. Vista'n od? Ges i drafferth yn llwytho chwareuwr fflach ddoe 'fyd.
Mae'n rhedeg yn iawn gyda fi ar Vista Gwna'n siwr dy fod yn dilyn y cyfarwyddiadau'n iawn..
Wedi dilyn popeth, y pecyn Cymraeg ddim yn agor yn iawn. Mae'n gweud fod y cyfrifiadur ddim yn nabod y rhaglen
Mae'r rhan bach iaith ar y gwaelod ar y dde yn gweithio, ond dyw e' ddim yn newid dim i'r Gymraeg.
Byddai'n trial eto rhywbryd.
Wnest ti lawrlwytho o'r wefan Gymraeg?
http://cy.www.mozilla.com/cy/
aha... does dim son am hwn ar wefan meddal. Yw'r pecyn iaith yn rhan o hwn felly? Ar wefan meddal mae cyfarwyddiadau ar sut i lawrlwytho'r rhaglen yn Saesneg, a wedyn newid y rhyngwyneb i'r Gymraeg, a dyna'r cyfarwyddiadau dwi wedi dilyn, ac mae'n gweithio'n iawn gyda fi ar XP a Vista. Ond, os oes modd lawrlwytho'r rhaglen gyda'r rhyngwyneb Cymraeg wedi ei osod yn barod, byddai hynny lot yn well! Yw'r geiriadur Cymraeg wedi gosod yn hwn hefyd, neu a oes angen gosod hwn yn ychwanegol?
Gyda llaw, cofiwch wneud yn siwr fod eich porwr yn chwilio am fersiwn Gymraeg o wefan (os yw'n bodoli, ac os mae'r wefan wedi cael ei adeiladu'n gywir) yn 1af. (Ddim yn siwr os yw hyn wedi ei wneud ar eich rhan os yn lawrlwytho'r fersiwn uchod o wefan Firefox?!?) I wneud hyn:
Pwyswch ar y tab Offer (Tools)
Dewiswch 'Dewisiadau' (Options)
Pwyswch ar y tab 'Uwch' (Advanced)
Yn yr adran 'Ieithoedd' (Languages) Pwyswch ar y botwm 'Dewiswch'
Gwnewch yn siwr mai 'Cymraeg [cy]' sydd ar frig y rhestr. Os nad yw yna o gwbwl, ychwanegwch trwy bwyso ar ychwanegu a'i ddewis o'r rhestr. Os nad yw ar y brig, pwyswch ar 'Cymraeg [cy]' a wedyn y botwm 'Symyd i Fyny'. Os yw'r dewis ar gael rhowch '[cy-gb]' fel ail ddewis yn y rhestr hefyd.