Apertium yn Google Summer of Code

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Apertium yn Google Summer of Code

Postiogan donnek » Mer 18 Maw 2009 9:53 pm

'Mond nodyn bach i ddweud bod y platfform cyfieithu Apertium, sail y cyfieithyddion
Cymraeg-Saesneg a'r un newydd Llydaweg-Ffrangeg, wedi ei dderbyn fel
project Google Summer of Code 2009:
http://socghop.appspot.com/program/acce ... e/gsoc2009

Tase unrhyw fyfyriwr[aig] yn hoffi ystyried gweithio ar y platfform dros
Haf 2009, cymerwch gipolwg dros y restr o projectau posibl:
http://wiki.apertium.org/wiki/Ideas_for ... er_of_Code
a chysylltwch â ni.

Mae Apertium ymysg nifer bach o systemau cyfieithu lle y gellir cael y cod *A'R* data
dan y GPL. Mae 17 o barau ieithoedd wedi'u cyhoeddi erbyn hyn, a dwsin arall
yn cael eu datblygu. Mae'n project gwerth-chweil ar gyfer ieithoedd lleiafrifol.
Mae 'na bapur am apertium-cy, y cyfieithydd Cymraeg-Saesneg, yma:
http://ufal.mff.cuni.cz/pbml-91-100.html
a chynigir rhagor o wybodaeth am y project ei hun ar y wici:
http://wiki.apertium.org/wiki/Main_Page
neu ar y sianel IRC:
irc.freenode.net #apertium
donnek
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 16
Ymunwyd: Iau 12 Ion 2006 2:47 pm
Lleoliad: Llanfairpwll

Re: Apertium yn Google Summer of Code

Postiogan Duw » Iau 19 Maw 2009 8:54 pm

Diddorol tu hwnt:

Version 0.1 of apertium-cy contains approximately 10,000 lemmas and 150 grammatical
rules, and has up to 94% coverage on large Welsh corpora.⁸ Work continues on 0.2, with the
key target being an initial version of an English to Welsh translator.


Os ydy apertium-cy f.0.2 yn gallu dod yn agos i hyn, gall drawsnewid darpariaeth arlein. Wedi dweud hyn, mae'n bwysig i nodi taw cyfieithu 'gisting' ydyw.

Ai C++ yw'r prif ofyn (o beth o'n i'n darllen) neu a oes angen rhaglenwyr mewn meysydd eraill (XML ac ati). Dwi'n sylwi hefyd bod angen defnyddio finite-state machines - ydy'r mathemateg yn mynd i chwarae rhan fawr? Dwi'n gyfarwydd a phethau sylfaenol fel RPN, ond beth am HMM? Posib gallaf gysylltu â rhai o'n cyn fyfyrwyr sydd yn astudio cyfrifiadureg yn y brifysgol.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Apertium yn Google Summer of Code

Postiogan donnek » Gwe 20 Maw 2009 12:09 am

Wedi dweud hyn, mae'n bwysig i nodi taw cyfieithu 'gisting' ydyw.


Ar hyn o bryd, mae'n "gisting", ond mi fydd y safon yn gwella yn y dyfodol, gobeithiwn.

Ai C++ yw'r prif ofyn (o beth o'n i'n darllen) neu a oes angen rhaglenwyr mewn meysydd eraill (XML ac ati).


Mae'n dibynnu ar y project. Mae gwaith ar apertium ei hun yn gofyn am C++, ond mae llawer o'r gwaith "ieithyddol" yn galw mwy am XML (ac yn anffodus, mae'n GAS gen i XML :drwg: ). Mae rhai wedi creu offer sy'n defnyddio ieithoedd eraill megis Java (e.e. y rhyngwyneb Apertium-viewer - http://wiki.apertium.org/wiki/Apertium-viewer, ac rydw i wedi creu un yn PHP). Felly mae amrediad o bethau i weithio arnodd.

Dwi'n sylwi hefyd bod angen defnyddio finite-state machines - ydy'r mathemateg yn mynd i chwarae rhan fawr? Dwi'n gyfarwydd a phethau sylfaenol fel RPN, ond beth am HMM? Posib gallaf gysylltu â rhai o'n cyn fyfyrwyr sydd yn astudio cyfrifiadureg yn y brifysgol.


Rwyf wedi bod yn cyfrannu heb wybod llawer am HMM. Mi fuasai Fran yn gallu siarad yn well am hyn (mae o ym Mangor dros y penwythnos yma). Efallai'r peth gorau ydy anfon ebost i mi, neu i'r rhestr ebost, neu cysylltu ar IRC, a gawn ni geisio ateb eich cwestiynau yn fwy fanwl. Buasai pawb ar y project yn falch iawn i weithio gyda chi neu'ch myfyrwyr i ddewis gwaith "gwneuthuradwy".
donnek
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 16
Ymunwyd: Iau 12 Ion 2006 2:47 pm
Lleoliad: Llanfairpwll


Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron