Mae gen i Cysill ar y mac ond mae'n ofnadwy o drafferthus - dim yn gweithio dim byd tebyg i'r pc.
Dw i'n gorfod pastio'r testun i mewn i flwch, gweld y camgymeriadau yno a gwneud y newidiadau fy hunan yn y ddogfen wreiddiol. Dyw e ddim yn cofio geiriau ti'n ddewis chwaith, nac yn 'nabod' talpiau o Saesneg er mwyn eu hanwybyddu. "Gwirio", "Derbyn", "Anwybyddu" a "Gorffen" yw'r unig ddewisiadau - felly mae'n aros ar eiriau sy ddim yn ei gof bob tro.
Dw i ddim yn gwbod ai nam sy ar fy nghopi i - neu a ydw i'n gwneud rhywbeth o'i le.
Dw i wedi methu cael CysGeir i weithio o gwbl ar y mac - mae jest yn bownsio yn y doc.
Mae'n debyg, oherwydd y trefniant oedd rhwng y Bwrdd Iaith (?) a Chanolfan Bedwyr, na allan nhw gynnig cymorth unigol gyda Chysill.
Dw i ddim yn gwbod a oes gwiriwr sillafu arall ar gael erbyn hyn. Doedd 'na ddim y tro diwetha i mi holi.