Tudalen 1 o 1

cysill a mac?

PostioPostiwyd: Gwe 20 Maw 2009 10:39 pm
gan gruffudd
dwi'n siwr bod y cwestiwn yma wedi ei ofyn droeon, ond ydi cysill yn gweithio hefo mac/oes na fersiwn mac o cysill?

os ddim, oes na unrhyw feddalwedd gwiro iaith tebyg ar ei gyfer o?

diolch!

Re: cysill a mac?

PostioPostiwyd: Gwe 20 Maw 2009 10:56 pm
gan sian
Mae gen i Cysill ar y mac ond mae'n ofnadwy o drafferthus - dim yn gweithio dim byd tebyg i'r pc.
Dw i'n gorfod pastio'r testun i mewn i flwch, gweld y camgymeriadau yno a gwneud y newidiadau fy hunan yn y ddogfen wreiddiol. Dyw e ddim yn cofio geiriau ti'n ddewis chwaith, nac yn 'nabod' talpiau o Saesneg er mwyn eu hanwybyddu. "Gwirio", "Derbyn", "Anwybyddu" a "Gorffen" yw'r unig ddewisiadau - felly mae'n aros ar eiriau sy ddim yn ei gof bob tro.
Dw i ddim yn gwbod ai nam sy ar fy nghopi i - neu a ydw i'n gwneud rhywbeth o'i le. :wps:
Dw i wedi methu cael CysGeir i weithio o gwbl ar y mac - mae jest yn bownsio yn y doc.
Mae'n debyg, oherwydd y trefniant oedd rhwng y Bwrdd Iaith (?) a Chanolfan Bedwyr, na allan nhw gynnig cymorth unigol gyda Chysill.

Dw i ddim yn gwbod a oes gwiriwr sillafu arall ar gael erbyn hyn. Doedd 'na ddim y tro diwetha i mi holi.

Re: cysill a mac?

PostioPostiwyd: Gwe 20 Maw 2009 11:14 pm
gan Hedd Gwynfor
Dyma fe, ac mae am ddim i'r mac - http://e-gymraeg.org/cysgliadmac/

Ond i fod yn onest, mae'r fersiwn mac yn rybish! :?

Re: cysill a mac?

PostioPostiwyd: Sad 21 Maw 2009 8:11 am
gan Duw
Beth ydy Bwrdd yr Iaith yn meddwl am hyn? Ai nhw a wnaeth ei ariannu? Os felly a allen nhw hawlio'r arian yn ol heb law eu bod yn sortio hwn allan?