Tudalen 1 o 1

Avast!

PostioPostiwyd: Sul 29 Maw 2009 2:10 pm
gan Hazel
Oes unrhywun sy'n gwybod am Avast! sganiwr feirws Golygiad Cartref? Mae 'na angen cwestiwnau arna i, ogwydd. :?

Re: Avast!

PostioPostiwyd: Sul 29 Maw 2009 4:34 pm
gan Duw
Be ti ishe gwybod?

Re: Avast!

PostioPostiwyd: Sul 29 Maw 2009 5:06 pm
gan Hazel
Amryw bethau ond bydda i'n dechrau efo hyn.

Ar y Golygiad Cartref, a wneith o'n craffu ar yr hollol cyfrifydd yn symud ohono'i hunan? Neu, oes rhaid i mi'w wneud hynny'n maniwal?

Dw i'n gwybod nid alla i'n rhestru amser penodol. Felly, roeddwn i'n meddwl y oedd rhaid i mi'n ei gwneud hi'n maniwal. Serch hynny, dywedodd y gŵr pwy ei gosod e a does dim rhaid i graffu fe.

Dydw i ddim yn mor sicr. Diolch i chi.

Mae'n ddrwg gen i os ydy fy Gymraeg yn ddrwg. Ydoedd dim unrhywun pwy oedd yn gallu ateb yn Saesneg. :(

Re: Avast!

PostioPostiwyd: Sul 29 Maw 2009 5:23 pm
gan Duw
Sori Hazel, dwi ddim yn deall dy gwestiynau, er meddwl ces i'r jist:

Bydd avast yn diweddaru ei hun yn awtomatig pob dydd.
Dim ond 60 diwrnod sydd gennyt os wyt am lawrlwytho'r fersiwn rhad/ddim.
Mae hwn yn cynnwys gwirydd rootkit/spyware hefyd - sy'n ffantastig.

Dylai fod modd i ti osod cyfnodau (e.e. pob diwrnod/wythnos ayyb) i wneud sgan llawn - er bydd y rhaglen pob amser yn dy alluogi i redeg sgan gan law.

Re: Avast!

PostioPostiwyd: Sul 29 Maw 2009 5:33 pm
gan Hazel
Duw a ddywedodd:
Sori Hazel, dwi ddim yn deall dy gwestiynau, er meddwl ces i'r jist:


Mae'n ddrwg gen i. Roeddwn i'n ofni hynny. Diolch am yr esboniadau beth bynnag. Fe fydda i'n ei ddarllen e. Diolch i chi rhyw lawer.

Re: Avast!

PostioPostiwyd: Maw 31 Maw 2009 2:16 pm
gan ceribethlem
Duw a ddywedodd:Dim ond 60 diwrnod sydd gennyt os wyt am lawrlwytho'r fersiwn rhad/ddim.

Beth sy'n digwydd wedyn? Oes rhaid talu amdani?

Mae AVG bob amser wedi plesio fi, mae ar gael am ddim, yn diweddaru ei hun, ac yn rhedeg yn awtomatig ei hunan bob dydd.

MAe AVG ar gael am ddim o fan hyn: http://www.avg.com/product-avg-anti-virus-free-edition

Re: Avast!

PostioPostiwyd: Maw 31 Maw 2009 2:39 pm
gan Hazel
Roedd gen i AVG. Mae gen i'r atebion ond nag allaf i esbonio'n dda.

Serch hynny, am Avast!, gwelwch beth derbyniais i ddoe!

http://avast.com/eng/download-user-guid ... anual.html