Yn ôl gwefan MacUser mae cwmni Apple am agor un o'u siopau yng Nghaerdydd.
Yn anffodus mae Apple wedi gwrthod rhyddhau fersiynau o'u meddalwedd ar gyfer iPod, iMac ac iFfôn yn Gymraeg.
Tybed a fyddent yn gwneud defnydd o'r Gymraeg ar arwyddion a hysbysebion yn y siop newydd?
Yn bendant iawn tasa cael Apple i defnyddio'r Gymraeg yn hwb mawr i hyrwyddo'r Gymraeg mewn technoleg.
Rwyf wedi gyrru e-bosts at Apple yn y gorffennol yn gofyn iddynt ddefnyddio'r Gymraeg ond dwi byth wedi cael ateb nôl.
Tybed a fydd Bwrdd yr Iaith / Menter Iaith Leol / Cymdeithas Meddalwedd Cymru yn gallu eu perswadio gyda agor eu siop?
Ar y llaw arall, petai nhw'n dal i wrthod defnyddio'r Gymraeg, bydd gynnon ni rhywle i dargedi ar gyfer protestio.. dwi'n sicr buasai gas gan Apple weld criw CyIG yno ar y diwrnod agoriadol.
Sori MacUser
http://www.macuser.co.uk/news/250511/apple-heads-to-aberdeen-cardiff-and-norwich.html
.