Siop Apple i Gaerdydd.. Cyfle i'r Gymraeg?

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Siop Apple i Gaerdydd.. Cyfle i'r Gymraeg?

Postiogan HuwJones » Iau 02 Ebr 2009 11:46 am

Yn ôl gwefan MacUser mae cwmni Apple am agor un o'u siopau yng Nghaerdydd.

Yn anffodus mae Apple wedi gwrthod rhyddhau fersiynau o'u meddalwedd ar gyfer iPod, iMac ac iFfôn yn Gymraeg.
Tybed a fyddent yn gwneud defnydd o'r Gymraeg ar arwyddion a hysbysebion yn y siop newydd?

Yn bendant iawn tasa cael Apple i defnyddio'r Gymraeg yn hwb mawr i hyrwyddo'r Gymraeg mewn technoleg.

Rwyf wedi gyrru e-bosts at Apple yn y gorffennol yn gofyn iddynt ddefnyddio'r Gymraeg ond dwi byth wedi cael ateb nôl.
Tybed a fydd Bwrdd yr Iaith / Menter Iaith Leol / Cymdeithas Meddalwedd Cymru yn gallu eu perswadio gyda agor eu siop?
Ar y llaw arall, petai nhw'n dal i wrthod defnyddio'r Gymraeg, bydd gynnon ni rhywle i dargedi ar gyfer protestio.. dwi'n sicr buasai gas gan Apple weld criw CyIG yno ar y diwrnod agoriadol.

Sori MacUser
http://www.macuser.co.uk/news/250511/apple-heads-to-aberdeen-cardiff-and-norwich.html
.
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Re: Siop Apple i Gaerdydd.. Cyfle i'r Gymraeg?

Postiogan Duw » Maw 07 Ebr 2009 10:26 pm

A oes rheswm iddynt wrthod?
Prynes i iTouch i'r plant amser nadolig, ac yn rhyfedd mae'r dyddiad yn ymddangos yn y Gymraeg. Stim syniad 'da fi be wnes i - dim ond y dyddiad - dim byd arall. Pam ydy'r cyfieithiad mor anodd i'w gynnwys? Mae pob gwefan tinpot yn gallu cynnig gwasanaeth aml/dwyieithog erbyn hyn - ydy'n rhy anodd i gwmni aml-genedlaethol fel Apple? A son am beidio â dychwelyd e-byst - ma' hwnna'n warthus. Dwi wedi derbyn yr un triniaeth gan Google. Dwi'n gwybod bo nhw'n derbyn miloedd ar ben filoedd o byst pob dydd, ond beth yw'r pwynt hysbysebu cyfeiriad e-bost os nac oes bwriad ymateb?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Siop Apple i Gaerdydd.. Cyfle i'r Gymraeg?

Postiogan Jac Glan-y-gors » Mer 08 Ebr 2009 6:54 pm

Duw a ddywedodd:Prynes i iTouch i'r plant amser nadolig, ac yn rhyfedd mae'r dyddiad yn ymddangos yn y Gymraeg. Stim syniad 'da fi be wnes i - dim ond y dyddiad - dim byd arall.

+ 1
Dim syniad sut. Ro'n i'n meddwl i ddechre am mod i wedi ei blwgo fe mewn i Linux i egnio, oherwydd gwreiddiau unix y ddau (apple a linux). Ond yn cael ar ddeall wrth ffrind ei fod yn defnyddio Windows Cymraeg a'r un peth wedi digwydd iddo fe - gosodiadau iaith y system?

Beth bynnag - hen bryd i Apple ddechre caniatau'r Gymraeg a ieithoedd eraill ar y SW.
Rhithffurf defnyddiwr
Jac Glan-y-gors
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 241
Ymunwyd: Sul 20 Gor 2003 3:05 pm
Lleoliad: Dyffryn Aeron

Re: Siop Apple i Gaerdydd.. Cyfle i'r Gymraeg?

Postiogan Duw » Mer 08 Ebr 2009 9:50 pm

Jac Glan-y-gors a ddywedodd:yn cael ar ddeall wrth ffrind ei fod yn defnyddio Windows Cymraeg a'r un peth wedi digwydd iddo fe - gosodiadau iaith y system?

Bydde hwn yn neud synnwyr.

Nac oedd siop fach Apple ar ben Heol Caerffili ar bwys yr Heath yng Nghaerdydd rhyw blynyddoedd yn ol? Rhyw cof 'da fi.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Siop Apple i Gaerdydd.. Cyfle i'r Gymraeg?

Postiogan Pendra Mwnagl » Llun 20 Ebr 2009 10:07 pm

Jac Glan-y-gors a ddywedodd:gosodiadau iaith y system?

Ie, dwi'n meddwl dyna ddigwyddodd i fi. Y dyddiad ar fy Mac wastad wedi bod yn Gymraeg a hwnnw wedi cael ei syncio gyda'r iPhone.
Jac Glan-y-gors a ddywedodd:Beth bynnag - hen bryd i Apple ddechre caniatau'r Gymraeg a ieithoedd eraill ar y SW.

Cytuno'n llwyr. Ond yn falch bod nhw'n agor siop yng Nghaerdydd :D

GOL: Mae hefyd modd newid iaith y dyddiad i'r Gymraeg ar yr iPhone/iPod Touch drwy ddewis Settings > General > International > Region Format > Welsh (United Kingdom)
Rhithffurf defnyddiwr
Pendra Mwnagl
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 40
Ymunwyd: Iau 27 Ion 2005 9:25 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Siop Apple i Gaerdydd.. Cyfle i'r Gymraeg?

Postiogan Pendra Mwnagl » Llun 20 Ebr 2009 10:13 pm

Duw a ddywedodd:
Jac Glan-y-gors a ddywedodd:yn cael ar ddeall wrth ffrind ei fod yn defnyddio Windows Cymraeg a'r un peth wedi digwydd iddo fe - gosodiadau iaith y system?

Bydde hwn yn neud synnwyr.

Nac oedd siop fach Apple ar ben Heol Caerffili ar bwys yr Heath yng Nghaerdydd rhyw blynyddoedd yn ol? Rhyw cof 'da fi.

Oedd, AT Computers. Symudon nhw i Arcêd Morgan. Siop dda. Nhw'n "official Apple reseller". Ond chwarae teg, mae ei bagiau plastig nhw'n ddwyieithog, efo clamp o logo afal arno hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Pendra Mwnagl
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 40
Ymunwyd: Iau 27 Ion 2005 9:25 pm
Lleoliad: Caerdydd


Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron