Tudalen 1 o 1

stwnsh.com

PostioPostiwyd: Maw 28 Ebr 2009 7:06 pm
gan cymro1170
Gwasanaeth lleihau URLs yn yr iaith Gymraeg newydd ei lansio ddoe.

http://stwnsh.com

Be da chi'n feddwl?

Re: stwnsh.com

PostioPostiwyd: Maw 28 Ebr 2009 7:44 pm
gan Duw
Mae hwn yn jest tinyurl gydag enw stwnsh yn lle tinyurl? Ydw i wedi methu'r pwynt? Ennill gan un nod?

Re: stwnsh.com

PostioPostiwyd: Maw 28 Ebr 2009 7:48 pm
gan Hedd Gwynfor
Ie, geiriau Cymraeg ar yr hafanddalen a stwnsh yn air Cymraeg wrth gwrs fydd yn ymddangos yn Facebook, Twitter ayb 8)

Re: stwnsh.com

PostioPostiwyd: Maw 28 Ebr 2009 8:00 pm
gan Duw
Sori Hedd, gwnes i olygu'r post blaenorol tra dy fod yn ymateb!

//O'n i'n gofyn os taw'r 'selling point' oedd bo brawddegau Cymraeg ar y flaendalen. Diolch am yr eglurhad.


Ha ha!


Dyma Pynciau Bywiog heb Gigs yn ymddangos: http://stwnsh.com/3vyhwn

Cyfeiriaf at yr edefyn 'ma os ydych yn crafu pen.

Re: stwnsh.com

PostioPostiwyd: Maw 28 Ebr 2009 10:38 pm
gan Duw
Jest wedi lansio un fy hun! Wel, dim ond i weld os oedd yn hawdd ei greu - pys o pis.

ewch i http://cw.wetwork.org.uk

a gwelwch y canlynol:

(teipiwch url reli hir a chael canlyniad)

Delwedd


Beth am rhywun yn prynu enw-b.net neu tebyg - gall hwnna greu urls reli bach! Eniwei

Dyma Pynciau Bywiog heb Gigs yn ymddangos: http://cw.wetwork.org.uk/9

Rhaid dweud ma'n databas i ychydig yn araf - ond digon da i brofi bo'n bosib ei greu'n hawdd. Neidiwch mewn bois!

//GOLYGU :: beth am tocio.net neu tocio.org - ddau ar gael. O byger, noswaith arall wedi mynd! Well i mi droi bant.

Re: stwnsh.com

PostioPostiwyd: Mer 29 Ebr 2009 6:49 am
gan Griff-Waunfach
Braf i weld gwasanaethau fel yn yn ymddangos yn y Gymraeg. Edrych ymlaen i weld beth sy'n esblygu o hwn. Braf hefyd i weld bod stwnsh.com wedi ysgogi eraill i'w trio!

Re: stwnsh.com

PostioPostiwyd: Mer 29 Ebr 2009 6:38 pm
gan Twitahw_
Gwasanaeth arbennig i ddweud y gwir, un dwi wedi ei ddefnyddio droeon yn barod ar raglen Twitter. Diolch http://www.stwnsh.com :D