Problemau di-wifren gyda Vista

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Problemau di-wifren gyda Vista

Postiogan ceribethlem » Maw 02 Meh 2009 7:16 pm

Oes unrhyw un wedi bod yn cael problemau gyda Vista a rhyngrwyd di-wifren? Bues i'n cael problemau, bydde'r we yn stopio gweithio ar ol dwy neu dair munud, ac yr unig ffordd i'w ailgychwyn byddai ailgychwyn y cyfrifiadur ei hun.

Newyddion da, fi'n credu mod i wedi darganfod yr ateb:

http://support.microsoft.com/kb/928233

Dilynwch y cyfarwyddiadau dwy ran o dair o'r ffordd lawr, dan y pennawd Resolution.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Problemau di-wifren gyda Vista

Postiogan Duw » Maw 02 Meh 2009 7:36 pm

Dwi wedi cal llwyth o 'run-ins' gyda blincin Vista. Bydd yn ofalus gyda'r registry (wrth ddefnyddio regedit). Gwna backup yn gynta/restore point.

Wyt ti'n rhedeg mwy nag un cyfrifiadur o'r un cysylltiad? Ces i sawl problem wrth rhedeg di-wifren a gwifren trwy un router (IP conflicts). Un peth da am Vista, dyle cynnig creu IP address arall.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Problemau di-wifren gyda Vista

Postiogan ceribethlem » Mer 03 Meh 2009 7:14 am

Duw a ddywedodd:Dwi wedi cal llwyth o 'run-ins' gyda blincin Vista. Bydd yn ofalus gyda'r registry (wrth ddefnyddio regedit). Gwna backup yn gynta/restore point.
Wedi neud restore point yn barod, cyn dilyn y cyfarwyddiadau uchod. Hyd yma mae i'w weld yn gweithio heb ffys.

Duw a ddywedodd:Wyt ti'n rhedeg mwy nag un cyfrifiadur o'r un cysylltiad? Ces i sawl problem wrth rhedeg di-wifren a gwifren trwy un router (IP conflicts). Un peth da am Vista, dyle cynnig creu IP address arall.
Cluniadur (Vista) lawr llawr, wedyn cyfrifiadur mawr (XP) lan llofft. Heb gael problem rhedeg y ddau drwy'r un router hyd yma (er bod fi heb drial neud y ddau yr un pryd lot).


Un problem diddorol sydd wedi dod yn sgil hyn yw bod problem ymweld a maes-e nawr! Fi'n gweld y hafa, ac yn gallu mynd mewn i'r holl adrannau, ac yn agor edefyn, wedyn dim. Methu darllen cyfraniadau neb! Dim problem yn yr ysgol.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Problemau di-wifren gyda Vista

Postiogan ceribethlem » Mer 03 Meh 2009 3:13 pm

ceribethlem a ddywedodd:Un problem diddorol sydd wedi dod yn sgil hyn yw bod problem ymweld a maes-e nawr! Fi'n gweld y hafa, ac yn gallu mynd mewn i'r holl adrannau, ac yn agor edefyn, wedyn dim. Methu darllen cyfraniadau neb! Dim problem yn yr ysgol.
Hmmmmmm, problem wedi diflannu ers i fi ddod adre :?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Problemau di-wifren gyda Vista

Postiogan Duw » Mer 03 Meh 2009 5:11 pm

Posib roedd maes-e wedi'i lwytho o fersiwn cache er nad oedd cysylltiad 'go iawn' 'da ti? Pwy a wyr? Dafydd falle?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Problemau di-wifren gyda Vista

Postiogan ceribethlem » Iau 04 Meh 2009 7:20 am

ceribethlem a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Un problem diddorol sydd wedi dod yn sgil hyn yw bod problem ymweld a maes-e nawr! Fi'n gweld y hafa, ac yn gallu mynd mewn i'r holl adrannau, ac yn agor edefyn, wedyn dim. Methu darllen cyfraniadau neb! Dim problem yn yr ysgol.
Hmmmmmm, problem wedi diflannu ers i fi ddod adre :?

Ac wedi dod nol eto :?

Duw a ddywedodd:Posib roedd maes-e wedi'i lwytho o fersiwn cache er nad oedd cysylltiad 'go iawn' 'da ti? Pwy a wyr? Dafydd falle?

Sori deall dim am hwnna. Fi wedi danfon e-bost am y broblem i ti, Duw, gyda llaw.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Problemau di-wifren gyda Vista

Postiogan Duw » Iau 04 Meh 2009 9:58 am

Wedi gwirio IE7/FF3 gyda'r url yn y ategyn a yrrwyd. Dim problem 'da fi. Methu â gweld pam fydde hwn yn digwydd. Fel rheol, mae neges fel hwn yn cael ei achosi gan sgript Javascript yn gewneud rhywbeth nid yw IE yn hoffi. Yn anffodus, mae IE7 yn darllen/deall javascript mewn ffordd wahanol i FF, Chrome ac ati (wel, mae'n nhw i gyd yn wahanol i fod yn onest, er mae porwyr eraill yn tueddu bod yn 'safonol').

Dwi wedi bod trwy ddadfyg ond methu â gweld unrhywbeth a fyddai'n achosi hwn. Sori boi.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Problemau di-wifren gyda Vista

Postiogan ceribethlem » Iau 04 Meh 2009 12:53 pm

Duw a ddywedodd:Wedi gwirio IE7/FF3 gyda'r url yn y ategyn a yrrwyd. Dim problem 'da fi. Methu â gweld pam fydde hwn yn digwydd. Fel rheol, mae neges fel hwn yn cael ei achosi gan sgript Javascript yn gewneud rhywbeth nid yw IE yn hoffi. Yn anffodus, mae IE7 yn darllen/deall javascript mewn ffordd wahanol i FF, Chrome ac ati (wel, mae'n nhw i gyd yn wahanol i fod yn onest, er mae porwyr eraill yn tueddu bod yn 'safonol').

Dwi wedi bod trwy ddadfyg ond methu â gweld unrhywbeth a fyddai'n achosi hwn. Sori boi.

O wel, falle ddaw e' nol. Buodd e'n gweithio am gyfnod wedyn nath e' rhewi wrth agor edefyn, mae'n mynd i'r prif faes a'r ffrydiau'n ddi-ffwdan. Mae pob maes arall byddai'n ymweld a hi yn gweithio'n ddi-ffwdan. Rhyfedd ai.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Problemau di-wifren gyda Vista

Postiogan ceribethlem » Sad 06 Meh 2009 1:59 pm

ceribethlem a ddywedodd:
Duw a ddywedodd:Wedi gwirio IE7/FF3 gyda'r url yn y ategyn a yrrwyd. Dim problem 'da fi. Methu â gweld pam fydde hwn yn digwydd. Fel rheol, mae neges fel hwn yn cael ei achosi gan sgript Javascript yn gewneud rhywbeth nid yw IE yn hoffi. Yn anffodus, mae IE7 yn darllen/deall javascript mewn ffordd wahanol i FF, Chrome ac ati (wel, mae'n nhw i gyd yn wahanol i fod yn onest, er mae porwyr eraill yn tueddu bod yn 'safonol').

Dwi wedi bod trwy ddadfyg ond methu â gweld unrhywbeth a fyddai'n achosi hwn. Sori boi.

O wel, falle ddaw e' nol. Buodd e'n gweithio am gyfnod wedyn nath e' rhewi wrth agor edefyn, mae'n mynd i'r prif faes a'r ffrydiau'n ddi-ffwdan. Mae pob maes arall byddai'n ymweld a hi yn gweithio'n ddi-ffwdan. Rhyfedd ai.

Sdim problem o gwbwl os wy'n mynd drwy proxy server!
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du


Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 17 gwestai

cron