Dwi'n cytuno i radde Sian, er mae cymaint o feddalwedd mas 'na, stim gobaith i 'arbenigwyr' gyfieithu pob un ohonynt. Bydde'n rhaid ffocysu ar lawn dyrned o becynnau'n unig os taw dim ond 'arbenigwyr' (self-appointed??) sy'n cael cyfrannu.
Mae'n rhaid dweud fy mod wedi dod ar draws llawer o dermau hurt, wedi'u cynnig gan 'arbenigwyr'. Stim byd 'swish' am lawer ohonynt, dim ond cetyn brawddeg yn disgrifio gair syml. Mae angen mewnbwn pobl greadigol hefyd, nid yn unig arbenigwyr iaith a thechnoleg (nid i ddweud bod y rhain heb y gallu i fod yn greadigol!). Wedi'r cyfan, y cyhoedd, ni'r plebs sy'n mynd i ddefnyddio'r pecynnau - er dadl arall am gysondeb 'sbo.
Dechreuais ar brosiect 'cysoni' cwpwl o fisoedd yn ol:
http://www.cyfieithu.wetwork.org.uk/index.php.
Prototeip ar gyfer rhyw syniad a gafodd defnyddiwr ar faes-e. Nid yw'r safle wedi'i orffen - sawl agwedd heb gychwyn - collais ddiddordeb (wedi danto), er hoffwn unrhyw adborth neu gall rhywun ddefnyddio'r syniadau yna - dwi ddim yn gweld bydd amser gennyg i'w ddatblygu'n bellach.