Cymedrolwr: dafydd
dafydd a ddywedodd:Mae SumatraPDF wedi ei gyfieithu yn barod gan Rhoslyn Prys (pwy arall?)
Duw a ddywedodd:Ydy KPDF (KDE dan Windows) ar gael yn y Gymraeg? Bois Linux mewn?
Rhoslyn Prys a ddywedodd:O da iawn, wedi bod yn disgwyl am hwnna ers oes, ond mae'n drist pan mae pobl yn cam gywiro dy gyfieithiad heb y cwrteisi i gysylltu am sgwrs - mae'r rhan fwyaf o'r cofnodion wedi eu cam-gywiro ac felly yn golygu gwaith pellach i mi ;(
e.e.
Newid Gadael i Allannu - eh?
Gosod Gwynebu yn lle Wynebu - anghywir
Newid Continus o Didor i Parhaol - rong!
Newid Troi i'r chwith i Cylchdrowch i'r chwith - pam cymhlethu?
Newid Nodau Tudalen i Llyfrhodau - Nodau Tudalen yw'r cyfieithiad safonol
Sgrîn Lawn - does dim to bach yn sgrin...
Newid Mynd i... i &Mordwyo i... (Go to...) ?
Cymdeithasu â ffeiliau PDF? yn lle Cysylltu gyda ffeiliau PDF? (Associate with PDF files?) Hmm...
Neidio'r fersiwn hwn. (Skip this version) yn lle Hepgor y fersiwn yma
Yn gyffredinol dwi'n falch iawn o weld pobl yn cyfieithu meddalwedd yn glir ac yn raenus. Mae problem yn codi gydag unigolion sy'n cam gywiro cyfieithiadau ac o ganlyniad yn achosi mwy o waith. Os gweli di'n dda xxglenxx, plîs paid!
Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 17 gwestai