Cymorthddesg Cymraeg

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cymorthddesg Cymraeg

Postiogan Duw » Sul 14 Meh 2009 7:34 pm

Sori os oeddech yn meddwl taw gwasanaeth llinell ffon yn y Gymraeg oedd hwn.

Rwyf newydd wedi cyfieithu rhaglen ffynhonnell agored i gynnal:

* Cronfa Wybodaeth (Knowledge Base)
* Tocyn Trwbwl (Trouble Tickets)
* Sgwrs Fyw (Live Chat)

Dyma sgrinlun:

cymorth.png
cymorth.png (176.8 KiB) Dangoswyd 2167 o weithiau


Ac mae'r zip o'r ffeiliau wedi'u cynnwys.
1. Ar ol dadbacio, agorwch y ffeil config.php a gosodwch manylion eich db.
2. Ewch i'r ffolder install ac agorwch y ffeil 'index.php'.
*** ces broblem wrth geisio ag arsefydlu'r pecyn dan ffolderi - os ydy'r ffolder 'support' o dan y 'root' dyle fod popeth yn iawn. Peidiwch â newid enwau'r ffolderi!

Cyfeiriad y ffeil zip: http://www.wetwork.org.uk/sgriptiau_wetwork/cymorth.zip
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Cymorthddesg Cymraeg

Postiogan HuwJones » Llun 15 Meh 2009 8:16 am

Da iawn ti am yr holl waith cyfieithu!!
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Re: Cymorthddesg Cymraeg

Postiogan Duw » Llun 15 Meh 2009 10:23 am

Diolch HJ. Dyma'r rhaglen ore (o rhan symlrwydd) parthed delio gyda cleientiaid dwi wedi dod ar draws 'to. Os ydych yn 'reseller' posib bo gennych system tebyg, er mentraf ei bod yn y Saesneg. Os ydych yn dod o hyd at wallau, posib ni fydd y gwall yn ymddangos yn y ffeil iaith. Roedd y person a wnaeth creu'r pecyn heb syniad o i18n! Mae llinynnau testun a oedd angen eu cyfieithu yn ymddangos ym mhob ffeil. Dylswn fod wedi ailgodio'r pecyn a'i gyrru'n ol i'r awdur, ond dim ond hyn a hyn o oriau sydd i'w cael! :rolio:

*Ychwanegiad: gallwch brofi'r system sgwrsio gan agor ffenestr sgwrsio mewn dau borwr (e.e. IE a FF). Os ydych wedi mewngofnodi fel admin ar un a fel defnyddiwr ar y llall, oherwydd bo gennych 'sesiynau' gwahanol, gallwch sgwrsio gyda'ch hun. Ni fydd yn gweithio os ydych yn agor dwy ffenestr yn yr un porwr (bydd gennych yr un sesiwn).
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco


Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai