Firefox a Golwg360.com

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Firefox a Golwg360.com

Postiogan Dafydd ab Iago » Maw 16 Meh 2009 11:12 am

Newydd darllen Golwg360.com gyda Internet Explorer.

Dwi'n synnu pa mor gyflymach yw Golwg360.com os dych chi'n defnyddio IE.

Oes 'na esboniad pam mae Firefox mor araf wrth agor tudalennau Golwg360.com?

Dafydd
Ni ddylid gosod sticeri ar eitemau cyhoeddus.
Rhithffurf defnyddiwr
Dafydd ab Iago
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Iau 22 Meh 2006 3:38 pm
Lleoliad: Brwsel

Re: Firefox a Golwg360.com

Postiogan dafydd » Maw 16 Meh 2009 12:28 pm

Dafydd ab Iago a ddywedodd:Newydd darllen Golwg360.com gyda Internet Explorer.

Dwi'n synnu pa mor gyflymach yw Golwg360.com os dych chi'n defnyddio IE.

Oes 'na esboniad pam mae Firefox mor araf wrth agor tudalennau Golwg360.com?


Dwi ddim yn gweld llawer o wahaniaeth fy hun (ar beiriant reit gyflym), ond os ydi'r wefan wedi ei adeiladu a'i brofi yn defnyddio IE yn unig, fyddai hi ddim yn syndod petai e'n arafach yn Firefox.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Re: Firefox a Golwg360.com

Postiogan Duw » Maw 16 Meh 2009 5:57 pm

Yr unig beth allai feddwl yw'r ajax - posib bod lot of mofyn gwrthrychau activeX cyn bod 'dulliau safonol' o weithredu ajax yn cael eu galw. Pwy â wyr? I mi, IE yw'r cwcw, sy pob amser yn codi problemau nid y porwyr eraill. Canlyniad rhyfedd felly. :?

O aros munud - unrhyw beth i wneud â'r cache? Cofio rhywbeth o sbel yn ol. Nid yw IE'n wastad yn clirio'r cache yn dilyn galwad ajax - felly gall fod yn ymddangos yn gyflymach oherwydd nid yw'n mofyn 'gwybodaeth ffres'. Ffili cofio'r holl manylion ddo.

Daf - unrhyw syniad parthed hwn?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco


Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron