Tudalen 1 o 1

Band eang - Pwy?

PostioPostiwyd: Mer 24 Meh 2009 8:25 pm
gan Lorn
Helo

Dwi newydd prynnu gliniadur newydd (Dell) ac yn chwilio am gwmni i gyflenwi'r bandeang i'r ty. Nes i obeithio mynd hefo Sky gan fy mod eisoes yn gwsmer Teledu Sky a Sky Talk, oedd yr unig gynnig oedd ar gael i fi'n £17 y mis + Connection fee o £30. Dwi'm wir isio talu'r £30 ne os ellai beidio ond doedd dim symud arnyn nhw, dwi di sbiad ar wefan BT a doedden nhw'm yn codi Connection fee o £30 ond oedd y gost misol yn dros £20 felly mae'n siwr newn nhw'r £30 yn nol dros cwpwl o fisoedd.

Felly, oes unrhyw rai yn gwybod am gwmniau da? Swn i'n licio meddwl cael cwmni lleol ond gafodd fy rhieni bethwmbreth o helynt gan un cwmni lleol felly yn anffodus dwi'n gyndyn o wneud os na chaf gynnig da. Bydde angen i mi brynnu Wireless Router can gwmni lleol? Mae BT a Sky yn cynnig o am ddim.

Diolch

Re: Band eang - Pwy?

PostioPostiwyd: Mer 24 Meh 2009 8:44 pm
gan dafydd
Mae llawer yn dibynnu ar lle wyt ti a pa ddarparwyr sydd ar gael. Rho dy gôd post fewn fan hyn a edrycha ar y rhestr 'LLU operator' i weld bwy sydd ar gael yn y gyfnewidfa.

Yna alli di gymharu'r darparwyr fan hyn. Mae O2 / Be, Sky a TalkTalk i gyd yn reit dda os ydyn nhw ar gael. Dyw Orange ddim yn dod allan ohoni'n dda.

Dwi ar O2/Be a mae'n gret a chyflym - yr unig 'snag' yw fod nhw'n darparu router di-wifr eu hunain sydd ddim yn arbennig o dda, er mae'n iawn ar gyfer defnydd ysgafn/cymhedrol. Mae'n bosib defnyddio unrhyw router ADSL2+ eich hunan ond mae hwnna'n gost ychwanegol a dyw e ddim mor hwylus wedyn os oes angen cymorth gan O2 am unrhyw broblemau.

Re: Band eang - Pwy?

PostioPostiwyd: Iau 25 Meh 2009 10:35 am
gan Duw
Nes i ymuno â SkyBroadband - 2Mb (dim angen mwy arnaf) yn rhad ac am ddim gyda phecyn multiroom (cost y w/l router am ddim hefyd ar y pryd). Daeth y caledwedd cyn y dyddiad a ddwedwyd a hefyd roedd modd i mi gofrestru cyn y dyddiad a benodwyd. Heb gael unrhyw drafferth o gwbl. Mae cyfraddau lanlwytho'n wych ar gyfer y pecyn - er dibynnu ar ble ti'b byw 'sbo.