Kez a ddywedodd:Diolch Dafydd ond fi drias i dynnu'r botymau mas ond dyn nhw ddim yn shiffto ac os bydda i'n tynnu'n galetach, wi'n ofan byddan nhw'n torri. Fujitsu siemens yw fy nghliniadur - ife' r mec 'na yw pam bo nhw ddim yn popo lan? Dotas i gyllath o dan un un ochr y bysellfwrdd - yr ochor gyda'r botwm delete arno a llwyddo i lanhau bach o dano ond odd gweddill y bysellfwrdd ddim yn dod yn rhydd yn iawn, felly eto i gyd own i'n ofan treial cal y gweddill lan rog ofan byswn i'n bygro popith lan
Dyle fod dim problem tynnu'r botymau ffwrdd er fod nhw'n gallu edrych yn fregus. Mae 'byds' cotwm yn help hefyd i lanhau dan yr allweddell. Wrth gwrs os oes lot o hylif wedi mynd mewn galle fod e wedi niweidio'r circuit board. Mae'n bosib newid y darn allweddell yn llwyr ond mae nhw'n gostus yn newydd.. 60-70 punt! Hefyd, defnyddia sgriwdreifyr iawn ychan!