Alliff rhywun fy nghynghori i os gwelwch yn dda.
Collas i hannar gwydrid o lath dros y bysellfwrdd ar fy nghliniadur ddydd Mawrth ac ma fe'n hollol fucked ers 'ny. Ifi wedi bratu £14.99 ar ryw hylif keyboard cleaner ond ma fe dal yr un ffycin peth.
Heddi, prynas i bysellfwrdd arall am £6 yn PC World ac ifi wedi wpo hwnnw miwn i'r USB port ac ifi'n cal teipo pethach nawr ond mae ymyrraeth orwth y bysellfwrdd ar y gliniadur. Ma'r llythyren 'h' yn lico dod lan a sdim stop arno sbo'n cyrradd gwaelod y dudalen ac mae'n mynd really gloi. Mae'n cymryd oes ifi sgrifennu unrhywbeth os yw hwnnw'n ymddangos. Ma'r gluniadur yn gwneud swn brrrrrrrrrr weithia hefyd nes sbo fi'n gwasgu PageUp idd'i stopid e, ac ma hwnna'n ffycin irritating.
Oes bosibl cywiro hyn ne bydd raid ifi iwso'r bysellfwrdd newydd am byth - hynny yw odi fy nhliniadur i'n buggered nawr. Byswn i'n ddiolchgar iawn am unrhyw help ne gyngor. Fi'n cal really shitty wthnos ers i Michael farw; etho i dynnu £10 mas o 'r peiriant arian nos Sul ond gwasgas i'r botwm £100 mewn camgymeriad ac odd dim digon o arian 'da fi yn y banc wedyn i dalu direct debit odd i ddod mas ddydd Llun, felly dyna ffein off Nationwide ac man nhw codi £39 am hwnna - felly wi ddim isha talu am drwsho'r gliniadur, ifi jwst moyn iddo fe witho fel odd e.
Diolch