Gofynna'n neis i Hedd am gyfieithiad o phpbb3. Mae'n cynnwys y botymau Cymraeg. Gall defnyddwyr wedyn dewis eu hiaith yn y panel personol. Mae hwn wedi'i droi bant ar faes-e, oherwydd dim ond Cymraeg sy'n cael ei ganiatau. Checka mas
http://www.phpbb.com am fwy o wybodaeth.
Heb law hynny gallet lawrlwytho sgriptiau fforwm eraill, er falle bydd yn rhaid i ti eu cyfieithu a chreu botymau dy hun.
phpbb3 yw'r un gorau (rhad ac am ddim), er mae rhai fel vBulletin ar gael, ond mae'r rheini'n codi cryn dipyn.
Os wyt ond am greu botymau Cymraeg, gwna gopi o'r rhai Saesneg a'u golygu mewn meddalwedd graffeg, e.e. Photoshop neu Fireworks - syml. Os nac oes pecyn graffeg fel hyn ar gael, gallet gael copi o Gimp (rhad ac am ddim).
Ydy hwnna'n ateb y cwestiwn??