Cyfle i bawb yn rhaglennwyr, blogwyr, ffans gwefannau cymdeithasol, dylunwyr gwe neu nerds teclynnau i ddod a siarad dros beint, paced o scampi fries a digonedd o sudd WiFi i gadw’r smartphones a’r netbooks yn llawen.
Dewch i ddangos eich project diweddara ac i weld pwy sy’n gwneud be yn y rhithfro.
Cadeirio? Pah! Gorsedd y Gîcs yw’r lle i fod ar ddydd Iau, 6ed o Awst, 5.30 yn y Plas Coch. Digwyddiad #eisteddfod09, heb os!
Os da chi ddim yn gallu bod yno yna ymunwch yn y drafodaeth ar y Twitter/Flickr/Blogs drwy ddefnyddio'r tag #eisteddfod09. Gobeithio bydd ganddon ni chydig o fideo byw yn dod oddi yno hefyd.
Wedi'i drefnu gan
Metastwnsh a
Hedyn
Maes-eio ers 2002, yo.