Camera SLR newydd...ble i gychwyn?

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Camera SLR newydd...ble i gychwyn?

Postiogan ap concord y bos » Iau 30 Gor 2009 9:21 pm

Dwi'n edrych mewn i brynu fy nghamera SLR digidol cyntaf ac i fod yn onast, i have no idea am y sdwff gora sydd ar gael ! Dwi di bod yn ffan mawr o sdwff Canon Ixus o ran point and shoot digital cameras, ond dwi angen stepio fynu i proper camera.

Unrhyw cyngor am be i brynu / cadw i ffwrdd o?!

Dilch yn fawr pobl neis!
ysgytlaeth mefus, maes-b 2005, swpyrb........
Rhithffurf defnyddiwr
ap concord y bos
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 470
Ymunwyd: Sad 16 Ebr 2005 10:32 pm
Lleoliad: Dyffryn Nantlle

Re: Camera SLR newydd...ble i gychwyn?

Postiogan CORRACH » Gwe 31 Gor 2009 8:02 am

Gwd thing,
Mae camera SLR/DSLR yn rhoi rheolaeth lawn i ti dros sut ti'n tynnu lluniau.
Os nad wyt ti erioed wedi cael y rheolaeth hwn erioed o'r blaen (fel gosod White Balance, rheoli flash, gallu rheoli aperture neu shutter speed pan wyt angen ayb.), swn i'n dweud mai mynd am Nikon D40 neu Canon Rebel fyddai orau. (Nikon D40 sydd gen i, ac mae'n wych, felly fedra i ond sôn ar ei gyfer)
Mae'r rhain yn syml i'w defnyddio, yn wych i ddysgu'r grefft ac, os wyt eu hangen, mae gosodiadau awtomatig fel Auto, Landscape, Portrait arnynt; ond buan iawn y gelli di arfer hefo rheoli'r camera dy hun.

Byddai rhai (anwybodus) yn dweud fod angen mwy o Megapixels i gael lluniau gwell. Paid cael dy dwyllo gan hynny. 6 Megapixel yw'r Nikon D40, ond mae ansawdd y sensor yn golygu bod ansawdd y lluniau yn aml yn well na camerâu compact hefo llawer mwy o megapixels.

Wn i ddim be di dy budget di, ond fy mhrif gyngor ydi paid gwario gormod ar y camera ei hun i gychwyn. Ges i Nikon D40 pan oedd prisiau'n rhad (£220), ac oherwydd hynny roedd gen i bres i brynu lenses a filters newydd yn ôl yr angen, unwaith ti wedi dod i arfer hefo sut a beth wyt ti'n dueddu i ffotograffu ayb. Cofia, hobi drud = cariad blin.

Mae modelau newydd fel y Nikon D5000 a'r Nikon D3000 yn bod hefyd, ond fedra i ddim gweld beth sydd gan y rhain i'w cynnig yn well, heblaw gimmicks fel LCD sy'n flipio, am gannoedd o bunnau yn fwy.

Fyddwn i ddim yn dweud wrthat gadw draw o unrhyw frand, ond os wyt yn meddwl y byddi di yn y dyfodol angen datblygu a chael mwy o lenses ac ella camera fwy semi-pro, mae gan Nikon a Canon ddewis eang a safonol ohonyn nhw. Byddai newid brand yn job ddrud iawn, so gwna'r dewis iawn.

A jyst er mwyn dangos mod i wedi wastio fy amser yn llwyr: peth pwysig ydi - paid gwrando ar neb arall.
Ystyria yn ofalus be wyt ti ei angen, pam wyt ti eisiau camera DSLR, be ydi dy obeithion a dyheadau di hefo'r camera, hynny yw, i be wyt ti am ei ddefnyddio. Wedyn gwna dy ymchwil yn ofalus gan gadw hynny mewn co', a dwi'n siŵr y gwnei di'r penderfyniad iawn.

[Tip: chwilia gwmniau arbenigol ar eBay. Mae DigitalRev,er enghraifft, yn amal hefo dêls da iawn o gymharu efo eraill, chwarae teg, ac yn ddibynadwy]
Rhithffurf defnyddiwr
CORRACH
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 894
Ymunwyd: Sul 14 Maw 2004 6:53 pm
Lleoliad: Llyn Cwm Llwch

Re: Camera SLR newydd...ble i gychwyn?

Postiogan Jaff-Bach » Gwe 31 Gor 2009 3:03 pm

Dwi'n meddwl bod Corrach di rhoi sylwada da iawn fana ichdi gysidro wrth chwilio am gamera a wedi deud bob dim oeddwni am ddeud!

Y peth pwysica i gysidro ydi y rheswm pam wtisho camera DSLR (dwin cymryd 'na un digidol tin chwilio am) ydio jesd ar gyfar hobi bob hyn a hyn neu wytin meddwl neitho ddatblygu i rwbath mwy, e.e mynd mewn i ffotograffiaeth proffesiynol.
Nikon D60 sydd genai, sydd yn debyg iawn i'r D40, a dwin ei ddefnyddio ar gyfar fy ngwaith fel designer. Ma'r ddau yn gamerau da iawn ar gyfar cychwyn diddordeb mewn ffotograffiaeth ac yn hawdd yw deall felly yn step da i fyny o gamerau compact, a ma na range da o lenses fedri di brynu yn unigol i fynd arnynt.
Mae'r settings ar y D60 yn gneud hi'n eithaf hawdd i ddod i ddeall sut mae camera iawn yn gweithio wrth ddefnyddio y setting manual sydd yn gyfuniad o aperture, 'A' (pa mor lydan tin agor y lens) a chyflymder y shutter, 'S'. Mae hyn yn gret, achos fel ddudodd corrach mae genti gymaint mwy o reolaeth yn sut mae'r llun yn troi allan. I fi, os oes gentim diddordeb yn hyn, dim ond mewn defnyddionr settings automatic (a edrych yn cwl efo SLR :-P ) mi fasan well investio mewn compact camera da.

gobeithio bod hyn yn helpu rywfaint!
'Ydi Myrddin ap Dafydd yn fab i Dafydd ap Gwilym?............'
Rhithffurf defnyddiwr
Jaff-Bach
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 198
Ymunwyd: Maw 31 Gor 2007 6:09 pm
Lleoliad: Llan Ffestiniog/Leeds


Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron