http://www.cysgliad.com/cysill/arlein/
Mae 'Cysill' sef y rhaglen cywiro sillafu / gramadeg / treigladau bellach ar gael ar lein.
Da iawn a diolch am yr holl waith unwaith eto i griw Canolfan Bedwyr.
Roedd lansiad ar stondin Eisteddfod Prifysgol Bangor ond dwi heb weld dim cyhoeddusrwydd i hwn eto sy'n bechod mawr.
Dwi wedi ffeindio cywiro sillafu / treigladau ar sgrin yn help enfawr ac wedi fy annog i ysgrifennu yn Gymraeg yn llawer amlach. Dwi'n sicr tasa llawer iawn o bobl eraill yn ennill hyder wrth fentrio i ysgrifennu Cymraeg petawn nhw'n gwybod am "Cysill" a dwi'n methu deall pam bod cryn ymdrech / cyllideb heb gael ei roi i'w arwyddo gan yr awdurdodau cyhoeddus sydd am annog mwy o ddefnydd o'r Gymraeg?