chwarewr cerdd a fideo symudol - beth sy' ar gael?

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

chwarewr cerdd a fideo symudol - beth sy' ar gael?

Postiogan bartiddu » Gwe 14 Awst 2009 8:46 pm

Henffych!
Rwy’n chwilio am chwarewr cerdd a fideo symudol, wel, digon o faint i rhoi mewn cwdyn cludo, sdim rhaid iddo ffitio mewn i’r boced.
Sgen i’m llawer o brofiad o gwbwl gyda’r pethe heblaw hen ipod 5 mlwydd oed ail law gefais hefo batri mor wan a rhech ‘ffeirad.

Rhywbeth fedrith chware fideos sy’ wedi lawrlwytho o’r hen Iwtiwb fydde’r boi, gyda digon o gof i ddal gwerth 10 - 15 - 20 awr o fideo ney fwy ( odi hynnu’n bosib dyddie ‘ma?) yn ogystal a bach o gerdd mp3 ac ati, a batri gwerth chweill i bara awr neu ddwy neu dri ayb.

Fydde gliniadur yn mynd yn rhy bell a rhy ddrud, er ma rhai pitw i gael on does? :?
Tua’r marce’r £100-£150 yw’r cyllid ar hyn o bryd, falle ele fe'n fwy se rhywbeth syndod o dda yn datrys yr angen!

Be sy’ ‘ore ar y farchnad gyfeillion? :?:

Diolch yn big.
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron