Henffych!
Rwy’n chwilio am chwarewr cerdd a fideo symudol, wel, digon o faint i rhoi mewn cwdyn cludo, sdim rhaid iddo ffitio mewn i’r boced.
Sgen i’m llawer o brofiad o gwbwl gyda’r pethe heblaw hen ipod 5 mlwydd oed ail law gefais hefo batri mor wan a rhech ‘ffeirad.
Rhywbeth fedrith chware fideos sy’ wedi lawrlwytho o’r hen Iwtiwb fydde’r boi, gyda digon o gof i ddal gwerth 10 - 15 - 20 awr o fideo ney fwy ( odi hynnu’n bosib dyddie ‘ma?) yn ogystal a bach o gerdd mp3 ac ati, a batri gwerth chweill i bara awr neu ddwy neu dri ayb.
Fydde gliniadur yn mynd yn rhy bell a rhy ddrud, er ma rhai pitw i gael on does?
Tua’r marce’r £100-£150 yw’r cyllid ar hyn o bryd, falle ele fe'n fwy se rhywbeth syndod o dda yn datrys yr angen!
Be sy’ ‘ore ar y farchnad gyfeillion?
Diolch yn big.